Ymweliadau Clirio – Cwestiynau Cyffredin
Dy Ymweliad
Beth ddylwn i ddisgwyl ar fy ymweliad?
Beth ddylwn i ddisgwyl ar fy ymweliad?
Bydd dy Ymweliad Clirio yn gyfle i ti:
- Gyfarfod ag aelod staff academaidd o'r adran
- Drafod unrhyw ymholiadau sydd gennyt gyda chynrychiolwyr o'r Timau canlynol:
- Denu Myfyrwyr ac Ehangu Cyfranogiad
- Llety
- Cymorth i Fyfyrwyr
- Mynd ar Daith Campws gyda Llysgennad neu aelod o staff (para tua 60 munud).
Pa mor hir mae’r Ymweliad Clirio yn para?
Rydym yn awgrymu dy fod yn dyrannu o leiaf tair awr ar gyfer dy ymweliad fel y galli gwrdd â staff o adran academaidd, trafod dy opsiynau a mynd ar daith o amgylch y campws.
Bydd yr Ymweliad Clirio yn rhedeg fel a ganlyn:
- 12.00 ymlaen: Cyrraedd a Chofrestru yng Nghanolfan y Celfyddydau
- Cyfle i siarad â:
- Tîm Denu Myfyrwyr ac Ehangu Cyfranogiad
- Llysgenhadon
- Cyfle i gael te/coffi/cinio yng Nghanolfan y Celfyddydau
- 1:00: Sgwrs Groeso a Sgwrs Llety
- 13:30: Ymgeiswyr Clirio a’i gwesteion i gwrdd â staff academaidd yng Nghanolfan y Celfyddydau.
- 13:40: Staff academaidd i fynd â'r ymgeiswyr a'u hymwelwyr i'r adrannau.
- 14:30: Dychwelyd i Ganolfan y Celfyddydau.
- 14:30: Cyfle i siarad â'r Tîm:
-
- Llety
- Cymorth i Fyfyrwyr
- Denu Myfyrwyr ac Ehangu Cyfranogiad
- Teithiau Campws (dan arweiniad Llysgenhadon neu aelod o staff)
- Teithiau Llety
Faint o’r gloch ddylwn ni gyrraedd?
Galli di gyrraedd unrhyw bryd o 12.00 ymlaen. Dyma pryd y galli siarad â staff a chael cinio a lluniaeth os hoffet. Bydd y Sgwrs Groeso yn dechrau am 1:00pm yn Sinema Canolfan y Celfyddydau.
Lle ydw i’n mynd ar ôl cyrraedd Campws Penglais?
Mae'r man cyfarfod ar gyfer ein Ymweliadau Clirio wedi'i leoli yng Nghanolfan y Celfyddydau. Byddem yn argymell dy fod yn defnyddio'r cod post canlynol os wyt ti’n defnyddio satnav SY23 3DE.
Mae Canolfan y Celfyddydau ar ganol campws Prifysgol Aberystwyth. I'n cyrraedd tro oddi ar y ffordd fawr (Rhiw Penglais) ac ymlaen i'r campws. Fe weli brif dderbynfa’r Brifysgol ar y chwith, yna dilyna y prif lwybr i’r campws. Fe weli Lyfrgell Hugh Owen ar y chwith a’r ‘Tŵr Cloch’ o dy flaen. Dilyna’r ffordd, tro i'r chwith ar y gylchfan fach, a dilyna’r ffordd i fyny i faes parcio'r ymwelwyr sydd ar y chwith. Bydd Canolfan y Celfyddydau o dy flaen ar ben draw'r ffordd. Mae parcio am ddim.
Dwi’n dod mewn car, bydd lle i fi barcio?
Bydd parcio am ddim ar gael i bawb.
Wrth gyrraedd Aberystwyth, bydd arwyddion yn dy gyfeirio at Brifysgol Aberystwyth; bydd rhain yn dy arwain at Gampws Penglais. Cadw lygad am yr arwyddion sgwâr melyn llachar sy'n cynnwys llun o fwrdd morter (cap academaidd). Bydd hyn yn dy dywys at y dderbynfa ar y campws.
Mae lle i barcio yn rhad ac am ddim ar gael tu ôl Canolfan y Celfyddydau. Gweler maes parcio P13 a P14 ar dudalen 1 o'r map hwn.
Dwi’n dod ar y tren, sut allai gyrraedd Campws Penglais?
Mae gwasanaethau trên rheolaidd i Aberystwyth. Mae'r wefan yn cynnwys amseroedd trenau ac opsiynau teithio. Mae Gorsaf Reilffordd Aberystwyth yng nghanol y dref, ger yr Orsaf Fysiau a'r Safle Tacsi.
Unwaith y byddi yng ngorsaf drenau Aberystwyth cer â thacsi i Ganolfan y Celfyddydau, Campws Penglais.
Fel Ymgeisydd Clirio galli hawlio hyd at uchafswm o £65.00 yn seiliedig ar bellter taith un ffordd rhwng côd post dy gartref a chôd post prifysgol penodedig. Byddwn yn anfon y ffurflen hawlio costau teithio atat ar ôl dy ymweliad.
Oes llety dros nos ar gael ar y Campws?
Rydym yn falch iawn i gynnig i ti (yr ymgeisydd) ac un rhiant / gwarcheidwad un noson am ddim yn ein llety yn Fferm Penglais, nos Wener 15, nos Sadwrn 16 a nos Sul 17 o Awst 2025.
Mae croeso i ti archebu gwesteion a/neu nosweithiau ychwanegol, a chodir tâl o £48.00 +TAW y pen, y noson.
Am fwy o wybodaeth, lawrlwytha’r ffurflen yma a’i dychwelyd at cynadleddau@aber.ac.uk
A fyddaf yn gallu mynd i adran academaidd fel rhan o fy ymweliad?
Byddi! Fel rhan o dy Ymweliad Clirio, byddwn yn gwneud trefniadau i ti gwrdd ag aelod o staff academaidd i roi'r cyfle i ti drafod y cwrs a gweld yr adran.
Beth os na allai ddod i'r Ymweliad Clirio?
Os na allu di ddod neu'n dymuno canslo dy Ymweliad Clirio, rho wybod i ni drwy ebostio: clirio@aber.ac.uk
Ond paid â phoeni, mae dal cyfle i ti ymweld â ni am Daith o'r Campws yr wythnos ganlynol rhwng ddydd Llun 18 Awst a ddydd Gwener 22 Awst. I gofrestru ar gyfer Taith Campws, cer i'r wefan:
Taith Campws
Beth ddylwn i ei ddisgwyl ar un o'r Teithiau Campws?
Taith gerdded o amgylch Campws Penglais yw’r taith campws, a bydd cyfle i ti weld tu mewn yr adnoddau canlynol:
- Llyfrgell Hugh Owen
- Gofod Astudio Iris De Freitas, Adeilad Hugh Owen
- Canolfan y Celfyddydau
- Y Ganolfan Chwaraeon
- Opsiynau Llety
Pa mor hir mae’r Daith yn para?
Mae’r Teithiau Campws yn para tua 60 munud ac yn gyfle gwych i ti weld cyfleusterau’r brifysgol a chael teimlad o'r lleoliad a'r ardal gyfagos.
Pwy fydd yn mynd â fi ar y Daith?
Byddi’n cael dy arwain ar y daith gan un o'n myfyrwyr sy’n lysgennad hyfforddedig neu aelod o staff. Bydd hwn yn gyfle perffaith i ti ofyn cwestiynau am y cwrs / cyrsiau maen nhw'n eu hastudio, pa fath o brofiad yw bod yn fyfyriwr yn Aberystwyth, sut le yw'r dref a llawer mwy.
Be ddylwn i wisgo?
Mae’r Daith Campws yn daith gerdded ac mae'r campws ei hun wedi'i leoli ar fryn felly byddem yn cynghori ein holl ymwelwyr i ddod ag esgidiau addas a bod yn barod ar gyfer pob tywydd!
A fyddaf yn gallu gweld yr holl lety sydd ar gael?
Ydy’r Daith Campws yn cynnwys ymweld â’r cyfleusterau chwaraeon?
Bydd modd i ti ymweld â’n cyfleusterau chwaraeon ar y Daith Campws. Dyw pob un o’n hadnoddau chwaraeon ddim ar y campws, ond mae’r Ganolfan Chwaraeon yno. Bydd modd i ti weld y rhan fwyaf o’r cyfleusterau a ddangosir yma: https://www.aber.ac.uk/cy/sportscentre/facilities/