Sut lledaenodd ieithoedd Celtaidd ar draws Prydain ac Iwerddon: pam fod angen i ni ailystyried y stori gynnar

02 Ionawr 2026

Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Simon Rodway yn trafod sut mae datblygiadau newydd yn y byd archaeoleg, geneteg ac arysgrifau cynnar yn helpu i ddatgelu hanes ieithoedd Celtaidd ym Mhrydain ac Iwerddon.

Geiriadur cyntaf hen ieithoedd Celtaidd Prydain ac Iwerddon ar ei ffordd

08 Rhagfyr 2025

Mae geiriadur cyflawn cyntaf ieithoedd Celtaidd hynafol Prydain ac Iwerddon yn cael ei lunio gan academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Aberystwyth yw Dinas Llên UNESCO gyntaf Cymru

31 Hydref 2025

Heddiw, 31 Hydref 2025, mae Aberystwyth Ceredigion yn cael y fraint o fod yn Ddinas Llên UNESCO gyntaf Cymru gan ymuno â rhwydwaith byd-eang o 350 o ddinasoedd ledled y byd sydd wedi’u cydnabod am eu bod yn ‘Ddinasoedd Creadigol’.

Dathlu 25 mlynedd o astudio hen ieithoedd Celtaidd yn Aberystwyth

03 Hydref 2025

Cynhelir cynhadledd i ddathlu dros 25 mlynedd o astudio hen ieithoedd Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddiweddarach y mis hwn.

Llwyfan i straeon LHDTC+ mewn cynhadledd yn Aberystwyth

02 Gorffennaf 2025

Bydd academyddion ac ymarferwyr creadigol yn cwrdd yn Aberystwyth er mwyn rhoi llwyfan i leisiau LHDTC+ yn llenyddiaeth y Gymraeg yr wythnos hon.

Bryn Terfel i ddathlu 150 mlwyddiant Adran Gymraeg Aberystwyth

24 Mehefin 2025

Bydd yr arwr operatig Bryn Terfel yn ymuno â chantorion ifanc disglair mewn cyngerdd i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth fis nesaf.

Cynhadledd heddwch yn trafod ‘byd di-ryfel’

05 Mehefin 2025

Mae’r Prif Weinidog wedi agor cynhadledd heddwch arbennig ym Mhrifysgol Aberystwyth a drefnwyd i drafod sut gall Cymru gyfrannu tuag at fyd di-ryfel.

Pennod newydd i gylchgrawn llenyddol

06 Chwefror 2025

Mae cylchgrawn academaidd sy’n trafod hanes a llên Cymru’r Oesoedd Canol yn cychwyn ar gyfnod newydd.

Cyfnewid diwylliannol Llydewig yn Aberystwyth

17 Ionawr 2025

Bydd myfyrwyr yn Aberystwyth yn dysgu am iaith a diwylliant Llydaw pan fydd academyddion o ddinas Rennes, Llydaw yn ymweld â'r dref yng Nghymru.

Y mesur barddonol gorau nad ydych yn debygol o fod wedi clywed amdano

06 Ionawr 2025

Mewn erthygl yn y Conversation, mae Mererid Hopwood, Athro'r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, yn esbonio celfyddyd hynafol y gynghanedd.