Eisteddfod Rhyng-golegol 2010

Siwan Davies

Siwan Davies

23 Chwefror 2010

Llongyfarchiadau gwresog i Siwan Davies, myfyrwraig o'r ail flwyddyn a gipiodd y Gadair yn yr Eisteddfod Rhyng-golegol yn Aberystwyth. Daeth llwyddiant hefyd i ran myfyrwyr eraill yn yr Adran - Ffion Eluned (o'r flwyddyn gyntaf) ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y Goron, ac Enfys Hatcher (o'r drydedd flwyddyn) ddaeth yn gyntaf yn y gystadleuaeth Llefaru Unigol ac yn gydradd drydydd am Gyflwyniad Theatrig Digri.