Darlith Gyhoeddus yn Adran y Gymraeg

12 Mawrth 2010

Traddodir darlith (yn Saesneg) gan Yr Athro Juan Luis Garcia Alonso (Prifysgol Salamanca) ar 'Celts in North-Western Hispania' am 5.30yh nos Fawrth, Mawrth 23ain yn Ystafell Seddon, Yr Hen Goleg. Croeso cynnes i bawb.

Seminar Adran y Gymraeg

19 Chwefror 2010

Bydd Dr Robin Chapman yn cynnal seminar ar 'Her Hanes: Ysgrifennu Hanes Llenyddiaeth Gymraeg 1740 Hyd Heddiw'  ar ddydd Iau, Mawrth 4ydd am 12.00 yn Ystafell y Cyngor, Yr Hen Goleg. Croeso cynnes i bawb yn yr Adran.

Eisteddfod Rhyng-golegol 2010

23 Chwefror 2010

Llongyfarchiadau gwresog i Siwan Davies, myfyrwraig o'r ail flwyddyn, a gipiodd y Gadair yn yr Eisteddfod Rhyng-golegol yn Aberystwyth.

Graddio a Gwobrau Adrannol

13 Gorffennaf 2010

Llongyfarchiadau gwresog i holl fyfyrwyr yr Adran fydd yn graddio ddydd Mercher 14eg o Orffennaf. Yn ogystal cyhoeddwyd heddiw enwau'r myfyrwyr hynny sydd wedi ennill gwobrau adrannol; estynnwn longyfarchion arbennig iddynt hwy.

Ymweld a Swyddfeydd y Cynulliad

26 Mawrth 2010

Bu myfyrwyr sy'n dilyn y modiwl 'Y Gymraeg yn y Gweithle' ar ymweliad a swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol yn Aberystwyth yn ddiweddar. Cawsant gyflwyniad i waith adrannau'r Cynulliad yn y Canolbarth gyda golwg arbennig ar y defnydd o'r iaith Gymraeg.

Dwned 15 (2009)

26 Mawrth 2010

Newydd ymddangos o'r wasg y mae rhifyn diweddaraf Dwned, a olygir gan Dr Bleddyn Huws o'r Adran a Dr A. Cynfael Lake o Brifysgol Abertawe.

Ennill Gwobr am Gyfieithu gwaith awdur o Haiti

10 Awst 2010

Yr Athro Marged Haycock ddaeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth Her Gyfieithu Cyfnewidfa Lên Cymru a Thŷ Cyfieithu Cymru, ar y cyd ag Oxfam Cymru, yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent eleni.



 


Lansiad Cyfrol Mairwen Thorne

02 Awst 2010

Bydd Mairwen Thorne, un o gyn-fyfyrwyr y Radd Allanol yn lansio cyfrol Y Daith ym Maes D, Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy ar ddydd Mercher 4ydd o Awst am 2.30. 

Tafodieitheg yr Ieithoedd Celtaidd Modern

10 Chwefror 2010

Cynhelir Seminar Ymchwil Adran y Gymraeg am 5.00 y.h. nos Iau 18fed o Chwefror yn Ystafell Seddon, Yr Hen Goleg. Trafodir sefyllfa tafodieithoedd yr Alban, Iwerddon, Cymru a Llydaw gyda chyfraniadau gan yr Athro Roibeard O Maolalaigh (Glasgow), yr Athro Malachy McKenna (Dulyn), a Dr Gwen Awbery a Dr Rhisiart Hincks (Aberystwyth). Mae'r seminar yn agored i bawb yn yr Adran.

‘In Search of Celtic Tylis’ – Adran y Gymraeg a Bwlgaria

26 Ebrill 2010

Ar yr 8ed o Fai 2010 bydd Dr Simon Rodway, darlithydd yn Adran y Gymraeg, a Dr Alexander Falileyev, Cymrawd Ymchwil yn yr Adran yn ymweld â Bwlgaria ar gyfer colocwiwm Celtaidd sydd i’w gynnal yn y National Institute of Archaeology with Museum (NIAM) yn Sofia.

Cyfweld yng Ngŵyl Gelli 2010

24 Mai 2010

Bydd Dr Robin Chapman, a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 1994, ac a fu ar y Rhestr Hir a'r Rhestr Fer wedi hynny, yn cyfweld dau o awduron y Rhestr Hir ar gyfer 2010 yng Ngwyl y Geli ddydd Llun 31 Mai.

Adran y Gymraeg ar y brig!

02 Mehefin 2010

Mae Adran y Gymraeg wedi sicrhau canlyniad arbennig o dda yn nhabl cynghrair y Times Good University Guide 2011. Golyga'r bodlonrwydd uchel ymysg myfyrwyr a gwell rhagolygon ar gyfer graddedigion bod Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yn y trydydd safle o blith holl Adrannau Celtaidd y Deyrnas Gyfunol, ac ar y brig o safbwynt yr Adrannau Cymraeg ar gyfer safon ei hymchwil.

Gradd Newydd yn y Gymraeg

14 Medi 2010

O 2011 ymlaen bydd cwrs gradd ychwanegol, 'Cymraeg Proffesiynol',  ar gael i fyfrwyr Adran y Gymraeg Aberystwyth. Bydd y radd 'safon aur' yma yn y Gymraeg yn rhoi cyfle i fyfyrwyr hogi sgiliau sy'n ymwneud â defnyddio'r iaith Gymraeg yn hyderus mewn ystod eang o gyd-destunau proffesiynol ac yn y gweithle.

Lansio Cerddi Dafydd ap Gwilym

02 Awst 2010

Ar ddydd Llun 2 Awst bydd Dr Huw Meirion Edwards yn ymuno a golygyddion eraill Cerddi Dafydd ap Gwilym i lansio'r gyfrol ym Mhabell y Cymdeithasau ar Faes yr Eisteddfod yng Nglyn Ebwy (3.00p.m). 

Ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol

02 Awst 2010

Ar ddydd Mercher 4ydd o Awst (rhwng 9.00yb a 12.00yb) ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy,  bydd Dr Robin Chapman, ynghyd a Dr Dafydd Sills-Jones o'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Teledu, yn ceisio canfod arwyddocad cerddi T.H. Parry-Williams i'r Gymru gyfoes.

Canlyniadau a Gwobrau

14 Gorffennaf 2010

Llongyfarchiadau gwresog i holl fyfyrwyr yr Adran fydd yn graddio ddydd Mercher. Dyfarnwyd gwobrau adrannol eleni i’r canlynol - estynnwn ein llongyfarchion arbennig iddynt hwy: