Dwned 15 (2009)

26 Mawrth 2010

Newydd ymddangos o'r wasg y mae rhifyn diweddaraf Dwned, a olygir gan Dr Bleddyn Huws o'r Adran a Dr A. Cynfael Lake o Brifysgol Abertawe. Ymhlith y cyfranwyr y mae un o fyfyrwyr ymchwil yr Adran hon, sef A. Howard Williams. Seiliwyd ei erthygl ar gynnwys ei draethawd estynedig israddedig a roddodd gyfle iddo gyfuno ei ddiddordeb mewn adar gyda'i hoffter o gerddi Beirdd yr Uchelwyr.

Cynnwys y rhifyn diweddaraf:

(-th-): Tystiolaeth Beirdd y Tywysogion a'r Uchelwyr gan Peter Wynn Thomas

Achau Llafaredd gan Richard Glyn Roberts

Y Cywyddwyr a'r Gweilch gan A. Howard Williams

Adolygiad ar Welsh Prophecy and English Politics in the Late Middle Ages (Darlith Goffa Syr Thomas Parry-Williams 2008) gan Helen Fulton, gan Dylan Foster Evans.

Gellir archebu copi o'r cylchgrawn drwy anfon e-bost ar Dr Bleddyn Huws: boh@aber.ac.uk