Ymweld a Swyddfeydd y Cynulliad

26 Mawrth 2010

Bu myfyrwyr sy'n dilyn y modiwl 'Y Gymraeg yn y Gweithle' ar ymweliad a swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol yn Aberystwyth yn ddiweddar. Cawsant gyflwyniad i waith adrannau'r Cynulliad yn y Canolbarth gyda golwg arbennig ar y defnydd o'r iaith Gymraeg.

Bu Sioned Dyer, a raddiodd yn yr Adran Gymraeg yn 2008, yn trafod ei gwaith yn yr Adran Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus. Yr oedd Sioned ymhlith y myfyrwyr cyntaf i ddilyn y modiwl 'Y Gymraeg yn y Gweithle', a chyfeiriodd at werth y modiwl hwnnw iddi hi yn bersonol fel paratoad ar gyfer byd gwaith.

Un arall o gyn-fyfyrwyr yr Adran a fu'n annerch y myfyrwyr oedd Geraint Williams sy'n gweithio fel cyfieithydd i'r Cynulliad. Rhoddodd gyflwyniad cynhwysfawr i waith yr Adran Gyfieithu gan gyfeirio at natur amrywiol gwaith y cyfieithydd proffesiynol ac am y meini prawf a ddefnyddir wrth gyfweld darpar gyfieithwyr.

Wrth gloriannu'r ymweliad wedyn, dywedodd un o aelodau'r dosbarth: " Roedd yr ymweliad yn werth chweil. Cawsom glywed sut fath o swyddi sy'n bosibl i ni eu gwneud ar ol graddio a defnyddio'n Cymraeg - roedd hyn yn wych, gan fod rhai swyddi nad oeddwn erioed wedi meddwl amdanynt o'r blaen y gallwn fod yn eu gwneud yn y dyfodol. Roedd hefyd yn braf iawn clywed barn myfyrwraig a ddilynodd yr un modiwl a ni a gweld pa mor ddefnyddiol y gall fod i'n harwain at fyd gwaith."