Cyfweld yng Ngŵyl Gelli 2010

24 Mai 2010

Bydd Dr Robin Chapman, a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 1994, ac a fu ar y Rhestr Hir a'r Rhestr Fer wedi hynny, yn cyfweld dau o awduron y Rhestr Hir ar gyfer 2010 yng Ngwyl y Geli ddydd Llun 31 Mai.

Bydd yn cadeirio trafodaeth gyda'r Athro D.Densil Morgan ar ei gofiant i Lewis Edwards yn y gyfres Dawn Dweud am 10yb, ac yn holi Caryl Lewis am ei nofel Naw Mis am 1.30yp. Cynhelir y ddau ddigwyddiad ar stondin Culture Cymru, dan nawdd yr Academi Gymreig.