Adran y Gymraeg ar y brig!

02 Mehefin 2010

Mae Adran y Gymraeg wedi sicrhau canlyniad arbennig o dda yn nhabl cynghrair y Times Good University Guide 2011. Golyga'r bodlonrwydd uchel ymysg myfyrwyr a gwell rhagolygon ar gyfer graddedigion bod Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yn y trydydd safle o blith holl Adrannau Celtaidd y Deyrnas Gyfunol, ac ar y brig o blith yr Adrannau Cymraeg ar gyfer safon ei hymchwil.

Mae'r newyddion hwn y dilyn y Times Higher Education Student Experience Survey 2010 lle gosodwyd Prigysgol Aberystwyth yn y pedwerydd safle o blith holl brifysgolion y DU ar gyfer dysgu ac addysgu, gyda Rhydychen, Caergrawnt a St Andrews.