Ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol

02 Awst 2010

Ar ddydd Mercher 4ydd o Awst (rhwng 9.00yb a 12.00yb) ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy bydd Dr Robin Chapman, ynghyd a Dr Dafydd Sills-Jones o'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Teledu, yn ceisio canfod arwyddocad cerddi T.H. Parry-Williams i'r Gymru gyfoes. Cynhelir yr arbrawf ymchwil newydd yma ym Mhabell Prifysgol Aberystwyth a gallwch gymryd rhan drwy ddilyn y camau canlynol:

1. Dewiswch eich hoff gerdd gan T.H. Parry-Williams (bydd casgliad o'i gerddi wrth law).

2. Meddyliwch yn ddwys ynghylch eich dewis, ac ynghylch arwyddocad y gerdd i chi.

3.Darllenwch eich cerdd i'r camera.

4. Atebwch ychydig o gwestiynau i'r camera, ynglyn ag arwyddocad eich dewis gerdd.

(Bydd cyfle arall i gymryd rhan yn yr arbrawf ar brynhawn Iau, 5ed o Awst rhwng 2.00yp - 5.00yp.)