Lansiad Cyfrol Mairwen Thorne
02 Awst 2010
Bydd Mairwen Thorne, un o gyn-fyfyrwyr y Radd Allanol yn lansio cyfrol Y Daith yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy ar ddydd Mercher 4ydd o Awst am 2.30y.p (Maes D).
Mae'r gyfrol, a gyhoeddir gan wasg Y Lolfa, yn cynnwys cyfres o ysgrifau personol, emosiynol a doniol am deithiau Mairwen i Awstralia dros gyfnod o ddeugain mlynedd. Teithiodd i Awstralia gyntaf yn 1963 a byth ers hynny mae'r wlad wedi gadael ei hol arni. Trwy ei hysgrifennu difyr cawn weld sut mae'r wlad wedi newid dros y blynyddoedd. Yna, yn ail hanner y gyfrol, mae Mairwen yn dychwelyd i'w gwreiddiau yn y Rhondda, gan fynd ar daith wahanol iawn.