Ennill Gwobr am Gyfieithu gwaith awdur o Haiti

10 Awst 2010

Yr Athro Marged Haycock ddaeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth Her Gyfieithu Cyfnewidfa Lên Cymru a Thŷ Cyfieithu Cymru, ar y cyd ag Oxfam Cymru, yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent eleni.

 

Derbyniodd ganmoliaeth uchel gan y ddau feirniad, Gareth Miles a Patrick McGuinness, am gyfieithu rhan gyntaf stori fer (o’r Ffrangeg) gan Yanick Lahens o Haiti . Roedd gallu tynnu sylw pobl at sefyllfa ynys Haiti yn bwysig iddi, meddai, a chafodd ei hannog i ddarllen mwy am y sefyllfa a’r ynys wrth iddi baratoi ar gyfer cyfieithu’r stori.

 

Cyflwynwyd Ffon y Pencerdd i’r Athro gan y Gweinidog dros Dreftadaeth,  Alun Ffred Jones, AC mewn seremoni yn yr Eisteddfod a bydd hefyd yn derbyn comisiwn i gyfieithu stori fer Yanick Lahens yn ei chyfanrwydd. Dyma’r ail flwyddyn i’r wobr hon gael ei chynnig er mwyn dathlu cyfraniad cyfieithwyr wrth iddynt hyrwyddo llenyddiaeth Cymru dramor.