Gradd Newydd yn y Gymraeg

14 Medi 2010

Cyhoeddwyd y bydd gradd newydd yn y Gymraeg ar gael ym Mhrifysgol Aberystwyth o 2011 ymlaen. Bydd myfyrwyr sy'n cael eu derbyn i ddilyn cwrs gradd BA Cymraeg Proffesiynol yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau ieithyddol mewn ystod eang o gyd-destunau proffesiynol, gan dderbyn hyfforddiant arbenigol staff yr Adran mewn meysydd megis cyfieithu, ysgrifennu creadigol, golygu a chyhoeddi ac astudio a hybu treftadaeth.

Disgwylir i ddarpar fyfyrwyr fydd yn ymgeisio am le ar y cwrs newydd hwn fod â gradd 'A' Cymraeg (Iaith Gyntaf) Safon Uwch fel rheol. Gall ymgeiswyr wneud cais am Q560 Cymraeg (Iaith Gyntaf) ar yr un pryd â chais am Q5PO Cymraeg Proffesiynol os ydynt yn dymuno.

Gweler yma am fwy o fanylion.