Dr Eurig Salisbury

BA, MPhil (Cymru), PhD (Aberystwyth)

Dr Eurig Salisbury

Darlithydd Ysgrifennu Creadigol

Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Manylion Cyswllt

Proffil

Deuthum i Aberystwyth fel myfyriwr yn 2001, gan ennill gradd BA Cymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu yn 2004. Arhosais yn Adran y Gymraeg hyd 2006 i ymchwilio ar gyfer gradd MPhil ('Canu Cynnar Guto'r Glyn').

Yn 2006, enillais gystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych, a chefais hefyd fy mhenodi'n Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Treuliais naw mlynedd hapus iawn yno, gan gyfrannu at dri phrosiect arloesol ym maes barddoniaeth yr Oesoedd Canol (ymhellach, gw. yr adran ar 'Ymchwil'). Rwy'n awdur cyhoeddedig (Llyfr Glas Eurig, 2008; Sgrwtsh!, 2011).

Cefais fy mhenodi'n Fardd Plant Cymru 2011-13, sef y tro cyntaf i fardd ymgymryd â'r swydd am gyfnod o ddwy flynedd. Yn ogystal ag ymgymryd ag ystod eang o wahanol weithgareddau barddonol, o weithdai mewn ysgolion a gwyliau llenyddol i gystadlaethau stomp a slam, a hynny ar hyd a lled y wlad, bûm yn tiwtora llenorion ifanc ar fwy nag un achlysur yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, ac roeddwn yn un o feirniaid Llyfr y Flwyddyn 2014. O 2023 i 2025, bûm yn Fardd Tref cyntaf Aberystwyth.

Rwyf wedi cydweithio â Gŵyl y Gelli, y Cyngor Prydeinig a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru ar nifer o brosiectau llenyddol ac wedi cymryd rhan mewn gwyliau llenyddol yn India, Bangladesh, Colombia, Cenia a nifer fawr o wledydd Ewropeaidd. Roeddwn yn un o Gymrodyr Rhyngwladol Gŵyl y Gelli 2012-13. Mae fy ngwaith wedi ei gyfieithu i nifer o ieithoedd, yn cynnwys Bangla, Malayalam ac Eidaleg.

Dysgu

Module Coordinator
Attendance Dept Admin
Blackboard Dept Admin
Moderator
Lecturer
Tutor
Assistant
Grader
Coordinator

Literature of the Middle Ages, the Early Modern Period and modern, cynganedd and creative writing.

Ymchwil

Barddoniaeth yr Oesoedd Canol, yn arbennig Guto'r Glyn a beirdd Croesoswallt, a barddoniaeth y Cyfnod Modern Cynnar. Rwyf ar hyn o bryd yn gweithio tuag at lunio golygiad o waith Huw Morys (1622–1709).

Oriau Swydda (Amseroedd Cyswllt Myfyrwyr)

  • Dydd Llun 14.00-17.00

Cyhoeddiadau

Hopwood, M, Salisbury, E, Rhydderch, FJ, Puw Davies, M & Morris, S, Darllen Cerddi yng ngweithdy Spineless Wonders, 2025, Performance.
Salisbury, E & Suggett, R 2024, 'Building cottages in seventeenth-century Wales: petitions, permissions and poetry', Archaeologia Cambrensis, vol. 173, pp. 227–53.
Salisbury, E 2023, Carolau Haf Huw Morys a'i Gyfoeswyr. Hen Lyfrau Bach, Dalen Newydd.
Salisbury, E 2022, Cerdd gan Huw Morys i ofyn crwth: cipolwg ar y canu caeth newydd. in BO Huws & TR Chapman (eds), Cyfrol Deyrnged Gruffydd Aled Williams. Atebol.
Salisbury, E 2020, 'Fi a'm holl gymdeithion': Golwg newydd ar farddoniaeth gaeth y Cyfnod Modern Cynnar. in A Karadog & E Salisbury (eds), Y Gynghanedd Heddiw. Cyhoeddiadau Barddas | Barddas Publications, pp. 46-61.
Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil