David Bryan

 

Beth wyt ti'n ei gofio fwyaf am dy gyfnod yn Aber?

Roedd yr holl brofiad ym Mhrifysgol Aberystwyth yn wych. Dysgais gymaint o’r sgiliau technegol ac ymarferol rwy’n eu defnyddio yn fy ngwaith heddiw yn ystod fy nghyfnod yn yr Adran Gyfrifiadureg yn astudio ar gyfer gradd Peirianneg Meddalwedd. Fyddech chi ddim yn gallu gofyn am well prifysgol ac addysg i oedolion.

Beth wyt ti'n ei wneud nawr o ran gyrfa, a sut mae dy radd o Aberystwyth wedi helpu?

Dysgais lawer yn ystod fy nghyfnod yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth gan ddatblygu’r sgiliau i fynd ymlaen i sefydlu fy musnes fy hun. Heb fy ngradd mewn Peirianneg Meddalwedd, ni fyddai gennyf y cymwysterau na’r hygrededd i arwain Opace na’r wybodaeth sy’n angenrheidiol er mwyn llwyddo yn y sector marchnata digidol cystadleuol. Trwy astudio yn yr adran Gyfrifiadureg, cefais lawer o gyfleoedd i wneud ymarferion ymarferol a grŵp, sy’n gwbl hanfodol ar ôl graddio a gweithio mewn amgylchedd tîm.

Pa gyngor fyddet ti'n ei roi i fyfyrwyr sy'n gwenud dy gwrs di nawr?

Byddwn yn pwysleisio pwysigrwydd mynychu a chymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp – byddwch yn mwynhau ac yn elwa llawer mwy ohonynt wrth siarad a rhannu eich meddyliau a’ch syniadau.

Elwais dipyn hefyd o brofiad gwaith y tu allan i’r Brifysgol neu fel rhan o’r cynllun Lleoliad mewn Diwydiant. Mae’r haf yn amser gwych i ymlacio cyn dechrau’r flwyddyn addysgol nesaf, ond mae’n adeg berffaith yn ogystal i roi rhywfaint o’r hyn rydych wedi’i ddysgu ar waith. Mae llawer o gwmnïau yn hapus i roi profiad gwaith i fyfyrwyr Prifysgol a, phwy a ŵyr, efallai y gwnân nhw ddod o hyd i swydd i chi yn y Cwmni ar ôl ichi raddio – dyna ddigwyddodd i mi.

Fy nghyngor olaf fyddai i fod yn hyderus, i herio’ch hun ac i fod yn barod i gymryd risg – dyma’r adeg orau i wneud hynny!