Paula Edze

Gadawodd Paula Aber yn 2009 gydag MSc mewn Monitro a Dadansoddi Amgylcheddol.  

Beth yw eich atgofion pennaf am eich cyfnod yn Aber?

Mae gen i lawer o atgofion hyfryd o Aberystwyth - y golygfeydd hardd, mynd am dro ar lan y môr gyda fy ffrindiau a gwylio'r haul yn machlud yn yr haf, cynhesrwydd y bobl, cerdded i fyny'r rhiw i gampws Penglais ac yn ôl, mynd ar y bws i Lanbadarn i gymryd nodiadau, rhedeg i lawr y grisiau i flaen Brynderw ar gyfer y driliau tân arferol, gwneud gwaith ymchwil yn Llyfrgell Hugh Owen a defnyddio Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar benwythnosau, gweithio ar aseiniadau gyda fy nghyd-fyfyrwyr cwrs, gwasanaethu fel Tywysydd Graddio yn 2008, ac ati.  

Beth ydych chi'n ei wneud ar hyn o bryd yn eich gyrfa a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi bod o gymorth ichi?

Rydw i wedi bod yn gweithio yn y sector ynni ers dychwelyd i Ghana yn 2009. Rwy’n gwneud llawer o waith eiriolaeth polisi yn y sector ynni, yn datblygu ac yn gweithredu prosiectau ynni adnewyddadwy, yn gwneud ymchwil, ac yn llunio rhaglenni addysg a rhaglenni i feithrin gallu. Ar hyn o bryd rydw i’n gweithio yn y sector olew a nwy sy’n faes addawol yn Ghana. Er nad yw'r hyn rydw i’n ei wneud nawr yn ymddangos yn gysylltiedig â'r hyn yr astudiais yn Aber - Monitro a Dadansoddi Amgylcheddol (MSc) - rwy'n falch o ddweud bod yr wybodaeth a’r sgiliau a gefais yn Aber wedi fy helpu i dyfu yn berson amryddawn iawn. Cefais astudio a rhagori mewn geocemeg amgylcheddol a phynciau cysylltiedig fel rhan o fy nghwrs yn Aber. Doedd hyn ddim yn rhy anodd diolch i'r athrawon (nid darlithwyr) gwych ac anhunanol oedd gen i. Mae’r wybodaeth a’r sgiliau a gefais wrth ysgrifennu cynigion am brosiectau, wrth baratoi dogfennau tendro, cynnal ymchwil a dadansoddi data ac ysgrifennu adroddiadau wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn fy ngwaith presennol. Cefais gyfle hefyd i fynychu cyfres o weithdai a seminarau ar y newid yn yr hinsawdd ac ar  dechnoleg ynni adnewyddadwy a drefnwyd gan rai o’r adrannau prifysgol yn Aber ac maent wedi bod yn ddefnyddiol iawn i’r hyn rwy'n ei wneud nawr. Rhoddodd Aber y sylfaen gref a oedd ei hangen arnaf i gyrraedd mor bell â hyn. 

Pa gyngor roddech chi i fyfyrwyr sy'n astudio eich cwrs chi ar hyn o bryd?

Peidiwch byth â diystyru pwysigrwydd unrhyw gwrs rydych yn ei gymryd neu aseiniad sy’n cael ei roi i chi - bydd ei angen arnoch ryw ddydd. Rhowch eich gorau wrth weithio mewn grŵp oherwydd bydd hyn yn eich helpu i ddod yn aelod da o dîm yn y byd corfforaethol. A mwynhewch bob rhan o'ch bywyd fel myfyriwr - astudiwch yn ddiwyd a chael hwyl yn gymedrol.