Rachel Daniels

Image - Rachel DanielsGraddiodd yn 1992 gyda BLib mewn Hanes, Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth, gan fynd ymlaen i gwblhau MLib yn 1993.

Beth ydych chi’n ei gofio’n bennaf am eich amser yn Aber?

Roeddwn bob amser yn edmygu ymrwymiad, cyfeillgarwch, gwybodaeth ac arbenigedd ein tiwtoriaid, nid yn unig yn yr Adran, ond ar draws y Brifysgol hefyd (yn y dyddiau hynny, roedd yn rhaid i chi astudio llyfrgellyddiaeth fel gradd anrhydedd ar y cyd, felly dewisais Hanes). Roedd rhannu campws Llanbadarn gyda myfyrwyr Addysg Bellach a’r Coleg Amaethyddiaeth yn brofiad diddorol - mae’n gyffredin i’ch bwyd “ddiflannu” wrth aros yn y brifysgol, ond fe gymerodd y myfyrwyr ffermio'r oergell gyfan un tro!! Yr atgofion eraill sydd wedi aros gyda mi o Aber yw’r hufen iâ o’r pier, glaw’n dod o bob cyfeiriad, sawl machlud bendigedig dros y môr, cwrdd â rhai o’m ffrindiau gorau, a’r bryn hwnnw â graddiant 1 mewn 4, wrth gwrs…

Beth ydych chi’n ei wneud nawr o ran gyrfa a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi helpu hynny?

Gadewais Aber ar ôl cwblhau BLib a MLib, a gwyddwn nad oeddwn eisiau swydd arferol mewn llyfrgell gyhoeddus (does dim o’i le gyda hynny - ond nid dyna oeddwn eisiau ei wneud!), ac roeddwn yn chwilio am rywbeth ychydig yn wahanol. Cefais dri chyfweliad am swyddi - un ar gyfer swydd ymchwil yn Robert Gordon, roedd un arall yn gofyn am weithio mewn carchar yn rhannol (ac roedd yn rhaid mynd am gyfweliad yno…), ac roedd un arall ar gyfer swydd yn gweithio yn Cranfield, yn y Coleg Gwyddoniaeth Brenhinol (yr Academi Amddiffyn heddiw). Gwyddwn nad oeddwn eisiau’r swydd ymchwil cyn gynted ag y cyrhaeddais y cyfweliad; gwnaethant ddweud wrthyf fy mod yn rhy ifanc i fynd i’r carchar; ond ar ôl cyrraedd RMCS roeddwn yn gwybod mai dyna'r lle roeddwn i fod - gynnau, tanciau a dynion mewn lifrai! Gwnaeth fy amser yn Aber fy helpu’n sylweddol yn y cyfweliad. Roedd ganddyn nhw gymaint o ddiddordeb ym mhwnc fy thesis ar gyfer fy ngradd meistr nes iddynt anghofio gofyn i mi unrhyw gwestiynau heriol am y lluoedd arfog.

Bellach, rwy’n gweithio’n hapus iawn i Brifysgol Cranfield ers dros 23 blynedd. Cychwynnais yno fel cynorthwyydd llyfrgell yn gweithio ym maes ymwybyddiaeth gyfredol, a bellach rwy’n Ddirprwy Llyfrgellydd, yn gofalu am grŵp Cyswllt Academaidd. Mae’r grŵp hwn yn gyfrifol am gymorth i staff a myfyrwyr ar gyfer addysgu ac ymchwil, felly mae pob diwrnod yn wahanol. Mae criw’r llyfrgell yn wych, ac yn gwneud i mi deimlo’n falch bob dydd. Rydym hefyd yn lwcus i fod yn gofalu am grŵp gwych o academyddion ac ymchwilwyr yn nhîm Amddiffyn a Diogelwch Cranfield.

Ar hyn o bryd, rwy’n gyfrifol am brosiect mawr yn datblygu Archif Astudiaethau Milwrol Rwsia, ar ran yr Academi Amddiffyn, sydd wedi bod yn denu mwy o gwsmeriaid dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r cyfleuster ymchwil ar gael i bawb ond rhaid gwneud trefniadau ymlaen llaw. Fy niddordeb mawr arall yw datblygu’r gwasanaeth llyfrgell i gyn-fyfyrwyr ar gyfer Cranfield, ac annog prifysgolion eraill i wneud yr un peth. Rhai blynyddoedd yn ôl, sefydlais y Fforwm Llyfrgell i Gyn-fyfyrwyr gyda’m cydweithiwr, sy’n cynnig cyngor ac yn cefnogi unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygu gwasanaeth llyfrgell i gyn-fyfyrwyr, drwy ddigwyddiad blynyddol am ddim, rhestr drafod a gwefan. Rydym hefyd yn ceisio annog gwerthwyr i ystyried caniatáu i gyn-fyfyrwyr ddefnyddio eu cynnyrch. Rydym wedi cael peth llwyddiant dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae llawer mwy o waith i’w wneud i berswadio pawb.
Mae mwy o wybodaeth ar yr ALF yma.

Rwyf yn sicr yn meddwl fod Aber wedi fy helpu i baratoi ar gyfer y swyddi hyn, ar ôl dysgu am werth gweithio ar y cyd a rhannu syniadau a’r arferion gorau, ac am bwysigrwydd dal ati â rhywbeth y mae gennych chi ffydd ynddo, hyd yn oed os nad yw pobl eraill yn gweld y gwerth yn syth. Byddwn hefyd yn dweud fod gweithio gyda’r ALF a datblygu ein gwasanaethau llyfrgell ein hunain i gyn-fyfyrwyr wedi gwneud i mi werthfawrogi fy amser yn Aber fwy byth.

Pa gyngor sydd gennych chi i fyfyriwr sy’n astudio eich cwrs heddiw?

Gwrandewch mor astud â phosib ar eich tiwtoriaid anhygoel. Ceisiwch gael cymaint o brofiad o waith ymarferol â phosib hefyd. Byddwch yn barod i wynebu amgylchedd sy’n newid yn gyflym. Meddyliwch am yr amser hwn fel dechrau eich addysg, gan y byddwch yn dysgu rhywbeth newydd bob dydd o fewn y proffesiwn hwn!