Rima Dapous

Graddiodd Rima Dapous o Aber gyda gradd mewn Saesneg a Ffrangeg yn 1993.


Dywed Rima:
Ar ôl cwblhau BA mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Astudiaethau Ffrengig yn Aberystwyth yn 1993, es i ymlaen i Rydychen i barhau gyda fy astudiaethau a chwblhau MPhil mewn Llenyddiaeth Ewropeaidd yn 1995 ac yna DPhil mewn Llenyddiaeth Ffrangeg yn 1999.


Yn dilyn fy astudiaethau, bûm i’n gweithio fel intern yn y Comisiwn Ewropeaidd (Cyfarwyddiaeth Addysg a Diwylliant). Arweiniodd hyn at yrfa mewn Rheoli Addysg Uwch. Fy swydd gyntaf yn y sector AU oedd Cynorthwyydd Gweithredol i Lywydd Prifysgol Frankfurt, ac roedd hyn yn cyd-fynd â diwygiadau anferth mewn AU yn Ewrop yn gyffredinol a’r Almaen yn benodol. Roedd hwn yn brofiad swydd gwerth chweil a enynnodd ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth AU sydd wedi parhau hyd heddiw.

Yna, gweithiais mewn sefydliadau ymchwil ac addysgu ôl-raddedig yn yr Almaen a’r DU yn eu tro, yn cynnwys fel Cyfarwyddwr Rhaglen yn Sefydliad Reuters ar gyfer Astudio Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Rhydychen.


Ar hyn o bryd, Fi yw Pennaeth Addysg a Gwyddoniaeth yn y Cyngor Prydeinig yn ninas Berlin, yr Almaen.