Adam Tate

Graddiodd Adam yn 2014 gyda BSc mewn Daearyddiaeth. 

Beth yw’ch atofion pennaf am eich cyfnod yn Aber?

Rwy'n cofio'r profiadau anhygoel a gefais gyda ffrindiau ar fy nghyrsiau, yn enwedig y rhai ohonom aeth i Ynys y Gogledd yn Seland Newydd fel rhan o'n gradd BSc Daearyddiaeth. Fe ddaethom ni’n grŵp gwirioneddol agos, ac yn aros felly drwy weddill y cwrs. Byddem yn dal i fynd allan gyda’n gilydd wedyn i gymdeithasu gyda’r nos fel grŵp o 30. Y fraint o ddysgu mewn lle sydd mor syfrdanol o brydferth, yn astudio yn y llyfrgell ac edrych allan ar y dref a'r môr.  

Beth ydych chi'n ei wneud ar hyn o bryd yn eich gyrfa a sut mae’ch gradd o Aberystwyth wedi’ch cynorthwyo?

Es ymlaen i gymhwyso i fod yn athro Daearyddiaeth, felly roedd gradd Daearyddiaeth yn help gyda hynny. Dwi'n meddwl mai'r peth pwysicaf i mi oedd bod gen i ddau diwtor gwych, sef Carina yn y flwyddyn gyntaf a Kevin yn fy ail a'm trydedd flwyddyn. Rhoddodd y ddau hyder i mi, gan ddweud y gallwn i lwyddo. Roedd y gred honno ynof fi yn rhywbeth nad oeddwn wedi ei brofi i'r un graddau yn yr ysgol, a chyda’u hanogaeth nhw fe allwn weld fy mhotensial fy hun. Dyna rywbeth rwyf innau’n pasio ymlaen, gan sicrhau fy mod i’n annog fy myfyrwyr fy hun, fel athro ysgol yn gyntaf ac erbyn hyn fel darlithydd.  

Yn fy mlwyddyn olaf yn Aber, cefais ddiagnosis o Glefyd Fahr, ar ôl damwain ar weiren wib. Anhwylder niwroddirywiol prin yw Clefyd Fahr; fe’i hetifeddir drwy’r genynnau ac fe’i nodweddir gan ddyddodion calsiwm mewn rhannau o'r ymennydd sy'n rheoli symudiadau. Cefais wybod y byddwn yn colli’r gallu i symud ymhen dwy flynedd ac yn debygol o farw ymhen wyth mlynedd. Ond roeddwn i’n benderfynol o herio'r darogan gwae hwnnw. Felly yn 2016 sefydlais elusen gofrestredig, Fahr Beyond, i gefnogi dioddefwyr eraill a'u teuluoedd ac i ddarparu ymchwil. 

A minnau’n sylfaenydd Fahr Beyond, rwy'n arwain y tîm wrth roi llais i bobl sydd â Chlefyd Fahr. Un elfen bwysg o waith Fahr Beyond yw ein bod wedi helpu i ddod â chlinigwyr at ei gilydd a fu gynt yn gweithio ar wahân. Trwy ddangos bod awydd am fwy o wybodaeth a gwell gofal i gleifion, mae clinigwyr bellach yn gweithio ar fframwaith diagnostig i’r DU a fframwaith rheoli ar gyfer Clefyd Fahr. 

Gwefan Fahr Beyond: https://www.fahrbeyond.org/


Pa gyngor roddech chi i fyfyrwyr sy'n astudio’ch cwrs chi ar hyn o bryd?

Bachwch ar y cyfleoedd sy’n dod i’ch rhan, efallai na chewch chi gyfle tebyg eto. Os ydych chi'n ansicr o rywbeth, gofynnwch. Peidiwch byth â bod ofn gofyn cwestiwn, efallai y cewch chi ateb sy'n agor drws i’ch dyfodol delfrydol na wyddech ddim byd amdano cyn hynny, neu ateb sy’n taflu goleuni newydd ar eich holl astudiaethau. Hefyd, os gallwch chi, cymerwch ran yn y gymuned leol wych yn Aber yn ogystal â’r gymuned academaidd; dysgais gymaint o fod yn rhan o'r sgowtiaid lleol. Mae’n arwain at brofiad llawnach a chyfoethocach o Aber.