Aysegul Ersoy

Graddiod Aysegul gydag MSc (Econ) mewn Rheolaeth a Marchnata yn 2012 ac mae bellach wedi dychwelyd i wlad Twrci i weithio ym maes hysbysebu fel Rheolwr Brand Cynorthwyol i Mey Icki, sy’n rhan o'r cwmni rhyngwladol, Diageo, a restrir ar y Gyfnewidfa Stoc, FTSE 100.


Beth yw eich atgofion pennaf am eich cyfnod yn Aber?

Mae Aberystwyth, o’i chymharu ag Istanbwl, yn dref fach iawn. Wrth gwrs, mae angen rhywfaint o addasu i’r gwahaniaeth hwn, er hyn roedd y dref yn lle cyfeillgar, yn hyfryd, yn heddychlon a hawdd byw yno, yn enwedig i fyfyrwyr. Y tywydd oer oedd yr unig beth na allwn i ddod i arfer ag ef, ond mae hyn yn wir nid yn unig amAberystwyth, ond am y DU gyfan!

Beth ydych chi'n ei wneud ar hyn o bryd yn eich gyrfa a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi bod o gymorth ichi?

Pan oeddwn yn chwilio am raglen MSc addas, roeddwn i’n canolbwyntio ar y cyrsiau yn hytrach nag ysgolion.  Edrychais ar raglenni sawl prifysgol a gwelais fod Prifysgol Aberystwyth yn dysgu'r holl ddosbarthiadau oedd eu hangen arnaf. Yn ail, ni allwn benderfynu rhwng cyrsiau Rheolaeth neu Farchnata, ac roedd Aberystwyth yn cynnig y ddau yn y Rhaglen MSc Rheolaeth a Marchnata. Mae gan Aberystwyth enw da am Wleidyddiaeth Ryngwladol a hefyd bodlonrwydd myfyrwyr; fy ngobaith yw y bydd yr Ysgol Fusnes a Rheolaeth yr un mor enwog â Gwleidyddiaeth Ryngwladol cyn bo hir! 

Gan mai gradd mewn Economeg oedd fy ngradd gyntaf, roedd y cwrs Rheolaeth a Marchnata yn ddewis da i fi.  Er hyn, pe bawn i wedi astudio Rheolaeth Busnes fel gradd gyntaf, byddai'r cwrs Meistr mewn Gweinyddiaeth Fusnes (MBA) wedi bod yn ddewis gwell. Roedd y staff addysgu o gymorth mawr ac yn annog unrhyw un oedd am newid eu bywydau er gwell. Roeddent hefyd wedi llwyddo i ymdrin â’r gwahaniaethau diwylliannol; roedd yr adran yn barod iawn i helpu â phob gweithdrefn. 

Pa gyngor roddech chi i fyfyrwyr sy'n astudio eich cwrs chi ar hyn o bryd?

Dysgais lawer fel myfyriwr rhyngwladol yn Aber. Yn gyntaf oll, roedd gen i lawer o ffrindiau rhyngwladol o bob cwr o'r byd. Roedd byw yn llety myfyrwyr y Brifysgol yn gyfle da i ddod i adnabod amrywiaeth o bobl a gwahanol ddiwylliannau.  Ac yn ail, nid oeddem yn grŵp mawr o bobl Twrcaidd ar y rhaglen uwch-raddedig ac felly roedd hi’n gyfle gwych i mi wella fy sgiliau iaith. Rwy'n argymell Aber i'r rhai sydd am astudio ar lefel uwchraddedig a gwella eu sgiliau iaith ar yr un pryd.
 
Yr unig beth y byddwn i’n ei ychwanegu at fy argymhelliad yw hyn, os ydych chi'n dod o ddinas fawr boblog, weithiau efallai y byddwch chi'n diflasu mewn dinas lai o faint. Felly, peidiwch â disgwyl byw bywyd tebyg ag o’r blaen. Ewch ati i edrych am brofiad gwahanol. Wedi'r cyfan, rhan o'r bwriad o fynd dramor yw cael profiad newydd a gwahanol.