Beth yw eich gwaith?
Is-lywydd Rhaglennu Ffilmiau Byrion yng Ngŵyl Ffilm Tribeca. Helpodd fy ngradd fi i werthfawrogi ffilmiau a'u dadansoddi’n feirniadol. Mae dysgu am hanes sinema a meithrin dealltwriaeth o theori ffilm wedi bod o gymorth mawr gyda fy ngwaith.
Beth oedd uchafbwynt astudio yn Aberystwyth?
Perfformio Othello fel y cynhyrchiad annibynnol cyntaf gan fyfyrwyr yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
Pa dri gair fyddech chi'n eu defnyddio i ddisgrifio eich profiad yn astudio yn Aberystwyth?
Diddorol, heriol a buddiol.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i fyfyrwyr y dyfodol?
Gwnewch y gorau o'ch profiad, peidiwch â dilyn strwythur eich gradd yn unig. Yn hytrach, defnyddiwch yr hyn rydych chi'n ei ddysgu i greu a datblygu eich gwaith eich hun hefyd. Byddwch yn rhagweithiol, nid yn oddefol, wrth ddysgu a datblygu.