James Maitland Wood

Graddiodd James o Aber gyda gradd yn y Gyfraith ym 1987. Yn ogystal â’i yrfa hynod o lwyddiannus, James hefyd yw llysgennad answyddogol Aber yn Anguilla ac mae’n barod i gynorthwyo unrhyw un o gyn-fyfyrwyr Aber i symud/a neu wneud busnes yno. Cysylltwch ag ef ar anguilla@alumni.aber.ac.uk

Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?

Mae gennyf atgofion melys o fy amser yn Aberystwyth, yn academaidd a chymdeithasol.  O weithio am oriau maith i gwblhau aseiniadau; i gwrdd â phobl o nifer o wahanol leoedd; i fyw yn Borth a mwynhau gweithgareddau yn y wlad, mwynheais yr amgylchedd cyfeillgar a cholegol a gynigiai.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr o ran eich gyrfa, a sut mae eich gradd o Aberystwyth wedi helpu?

Ar hyn o bryd fi yw’r Twrnai Cyffredinol ar gyfer Anguilla. Cyn cael fy mhenodi i’r swydd hon, roeddwn yn Dwrnai Cyffredinol ar gyfer Montserrat, Tiriogaeth Dramor Prydeinig arall. Gwnaeth fy ngradd yn Aberystwyth fy nghynorthwyo ar ddechrau fy ngyrfa, trwy feithrin a datblygu diddordeb mewn cyfraith ryngwladol, cyfraith gyfansoddiadol a chyfraith trosedd. Rwyf wedi bod yn ffodus i allu cymhwyso llawer o egwyddorion cyfreithiol a oedd yn ymddangos mor anghysbell ar y pryd. Er enghraifft, mae’n anarferol i ymarferwr gael cyfle i fod yn rhan o ddiwygio cyfansoddiad, ond cefais y fraint o gynorthwyo i drafod a drafftio’r cyfansoddiad newydd ar gyfer Montserrat, a ddaeth i rym yn 2011.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr sy’n gwneud eich cwrs chi nawr?

Gellir distyllu fy nghyngor i ddau air: 'gwaith caled'. Mae’n hi’n fyd cynyddol gystadleuol, ond mae cyfleoedd ar gael i’r rhai sy’n dyfalbarhau ac sy’n benderfynol. Ar yr un pryd, mae’n ddoeth cofio bod Aberystwyth wedi’i hamgylchynu gan fôr a chefn gwlad arbennig. Os ydych chi’n cael cyfle o’r fath, mae’n syniad da manteisio i’r eithaf ar fyw mewn amgylchedd fel hyn.