Mario Pablo Campoy Siller

Enillodd Mario Pablo Campoy Siller MBA o Aber yn 2010. 

 

Beth wyt ti'n ei gofio fwyaf am dy gyfnod yn Aber?

Ansawdd y bywyd a fwynheais yn Aber fel myfyriwr uwchraddedig. Mae pob dim yn ymddangos mor syml yno ac roedd yn awyrgylch hamddenol ar gyfer canolbwyntio ar f’astudiaethau yn ogystal â mwynhau’r bywyd cymdeithasol lleol.

Beth wyt ti'n ei wneud nawr o ran gyrfa, a sut mae dy radd o Aberystwyth wedi helpu?

Ers imi ddod yn ôl o Aber, gofynnwyd imi ymuno â chwmni Datblygu Eiddo Tirol yng Ngogledd Mecsico, sydd â’i bencadlys ym Miami, Fflorida. Rwyf hefyd wedi dechrau fy nghwmni meddalwedd ar-alw fy hun (www.clarensyst.com.mx) sy’n helpu busnesau bach a chanolig i wella’r hyn y maen nhw’n gallu ei wneud er mwyn goroesi ym marchnad hynod gystadleuol gogledd Mecsico. Mi wnaeth y cwrs MBA yn Aber fy helpu i gysylltu fy nghefndir technegol blaenorol â sgiliau busnes cyfredol a’r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer sefydlu fy menter entrepreneuraidd fy hun.

Pa gyngor fyddet ti'n ei roi i fyfyrwyr sy'n gwneud dy gwrs di nawr?

Fy argymhelliad i bawb sy’n dilyn neu sy’n ystyried dilyn y rhaglen MBA yn Aber yw i gadw eu llygaid a’u meddwl yn gwbl agored – dylent gymryd yr amser hwn i feddwl am lwybr eu bywyd proffesiynol yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn eu hannog i feithrin cysylltiadau a chyfeillgarwch gyda’u cyd-fyfyrwyr er mwyn creu rhwydwaith grymus all fod yn ddefnyddiol yn y dyfodol.