Matt Cook

Graddiodd Matt o Aber yn 2015 gyda gradd MPhys mewn Astroffiseg. Mae bellach yn gweithio yn y Labordy Gwyddoniaeth a Thechnoleg Amddiffyn.

Beth wyt ti’n ei gofio fwyaf am dy gyfnod yn Aber?

Cwrdd â fy ffrindiau gorau am y tro cyntaf, mynd i gicio’r bar a gwneud pethau wna i fyth cael eu gwneud eto.

Beth wyt ti’n ei wneud nawr o ran gyrfa, a sut mae dy radd o Aberystwyth wedi helpu?

Mi wnes i gwblhau gradd Meistr mewn Astroffiseg yn 2015, a chefais gynnig swydd fel Gwyddonydd Ymchwil yn y Labordy Gwyddoniaeth a Thechnoleg Amddiffyn yn syth (roedd yn rhaid imi ofyn am amser i ffwrdd o’r gwaith er mwyn dod i’r diwrnod graddio!) Mae fy swydd yn cynnwys cyflwyno cysyniadau gwyddonol cymhleth i Swyddogion y Llywodraeth, rhywbeth na allwn i ei wneud heb y profiad a’r ymarfer a gefais yn ystod fy nghyfnod yn Aber.
Roedd fy mhrosiectau yn fy nhrydedd a’m pedwaredd flwyddyn yn brosiectau unigryw a ddatblygais gyda chymorth darlithwyr yr adran; roedd hyn yn fy ngalluogi i ennyn fy chwilfrydedd gwyddonol, a dysgais y grefft o reoli prosiect ymchwil yn hytrach na gwneud prosiect penodol gyda cherrig milltir a nodau penodol – mae hon yn sgil amhrisiadwy yn fy ngweithle.

Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i fyfyriwr sy’n gwneud dy gwrs di nawr?

Mwynhewch! Mae gwneud yn dda yn academaidd yn y brifysgol yn bwysig, ond eich profiadau yma sydd fwyaf gwerthfawr. Rhowch gynnig ar bopeth o leiaf unwaith, a pheidiwch â phoeni os ydych yn cael trafferth gyda rhywbeth, bydd nifer o bobl o’ch cwmpas yn yr un sefyllfa â chi.
Byddwch yn cwrdd â ffrindiau dros dro a ffrindiau oes, peidiwch â mynd i banig os ydych yn colli cyswllt â phobl, bydd eich ffrindiau oes yno ichi os bydd eu hangen arnoch.