Peter Hill

Graddiodd Peter o Aber yn 1980 â gradd BSc (Econ) mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes. Er 2010 ef yw prifathro Coleg Dubai yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig.

Beth ydych chi’n ei gofio fwyaf am eich amser yn Aber?

Mae f’atgofion o Aber yn y 70au hwyr yn rhannol yn cynnwys ceisio dod o hyd i fy ffordd o amgylch system ffyrdd y dref, gan ei fod yn cael ei ddatgymalu er mwyn gosod system garthffosiaeth newydd. Rhyfedd sut mae rhai pethau’n aros yn y cof! Ac wrth gwrs, mae’r nosweithiau a dreuliwyd yn y Neuadd Fawr a thafarndai niferus y dref ychydig yn fwy niwlog. Roedd ansawdd yr addysgu a’r gofal bugeiliol o’r radd flaenaf, ac mae’n wych gweld nad yw’r elfen allweddol hon o fywyd Aberystwyth wedi newid. Gan fy mod innau nawr wedi bod yn gweithio ym maes addysg am dros drideg o flynyddoedd, rwy’n teimlo balchder gwirioneddol pan rwy’n darllen am lwyddiannau niferus y Brifysgol a’i hesgyniad i fyny’r Tablau Cynghrair enwog.

Beth ydych chi’n ei wneud nawr o ran gyrfa, a sut helpodd eich Gradd o Aberystwyth?

Rwyf nawr yn Brifathro yng Ngholeg Dubai, un o’r ysgolion Prydeinig mwyaf blaenllaw yn y Dwyrain Canol, yn dilyn TGAU a Safon Uwch. Wedi’i leoli ar ymyl y Gwlff Arabaidd, mae’n sicr yn fyd cwbl wahanol i’r Prom gwlyb, gwyntog neu Riw Penglais. Serch hynny, mae Coleg Dubai a Phrifysgol Aberystwyth wedi datblygu’n aruthrol dros y degawdau diwethaf, ac maent yn mynd o nerth i nerth – gan oresgyn anawsterau sylweddol ar hyd y ffordd. Yn ddiweddar cynhaliodd y Coleg gyfres o drafodaethau ar faterion cyfoes gyda chyfraniadau gan Goleg y Brenin a choleg Prifysgol Llundain (UCL). Rwy’n hynod falch y bydd ein trafodaeth nesaf yn cynnwys cyfraniad gan staff academaidd o Aber, gan adfer, felly,  fy nghysylltiad â’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol/ Cysylltiadau Rhyngwladol gryfaf yn y Deyrnas Unedig!

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr ar eich cwrs chi nawr?

Gwnewch y mwyaf o bob cyfle a gewch, yn academaidd a’r tu allan i’ch astudiaethau, i gael y gorau o’ch profiad yn Aber.