Medal Begynol Frenhinol i arbenigwr ym Mhrifysgol Aberystwyth

Dr Samuel Doyle. Credyd: Joe Reynolds www.joewreynolds.com
12 Ionawr 2026
Mae rhewlifegydd maes ym Mhrifysgol Aberystwyth, Dr Samuel Doyle, wedi derbyn y Fedal Begynol yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2026 am ei ymchwil a'i arweinyddiaeth ragorol yn yr Ynys Las.
Mae’r Fedal Begynol yn un o anrhydeddau mwyaf hanesyddol y Deyrnas Unedig, ac fe’i dyfernir gan y Brenin i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau eithriadol i archwilio’r pegynau neu ddatblygu eu gwyddorau, yn enwedig trwy waith a wneir mewn amgylcheddau eithafol a heriol.
Mae derbynwyr blaenorol yr anrhydedd yn cynnwys rhai o fforwyr enwocaf y byd, yn eu plith Syr Ernest Shackleton, Capten Robert Falcon Scott, Syr Edmund Hillary, a Syr Ranulph Fiennes.
Mae ymchwil Dr Doyle wedi datblygu ein dealltwriaeth o hydroleg llenni iâ a sut mae dŵr sy'n llifo o dan yr iâ yn effeithio ar symudiad yr iâ.
Wrth siarad am y wobr, y bydd yn ei derbyn mewn seremoni ym Mhalas St James yn Llundain, dywedodd Dr Doyle:
"Rwy'n falch iawn o dderbyn y wobr hon; mae wedi bod yn bleser ymgymryd ag ymchwil ar Len Iâ’r Ynys Las - un o anialdiroedd mawreddog olaf y Ddaear - dros gyfnodau estynedig o waith maes yn ystod y 17 mlynedd diwethaf. Ni fyddai wedi bod yn bosibl goresgyn yr holl heriau sy’n codi wrth gynnal gwaith maes pegynol mewn mannau anghysbell heb ddawn ac ymroddiad yr holl bobl rydw i wedi cydweithio â nhw. Er fy mod i fel arfer yn gweithio mewn ardaloedd anghysbell o'r llen iâ mewn timau bach o wyddonwyr, y peth gorau am weithio ar yr Ynys Las yw cael dysgu gan y brodorion. Mae gen i barch dwfn at eu ffordd o fyw, eu diwylliant, a'u gwybodaeth ymarferol sy’n deillio o’r ffaith eu bod wedi byw mewn amgylchedd mor eithafol am ganrifoedd."

Credyd: Scott Crady www.scottcrady.com
Dros bron i ddau ddegawd, mae Dr Doyle wedi ymgymryd â 23 o alldeithiau i’r Ynys Las yn yr Arctig i gynnal gwaith maes o wersylloedd anghysbell, gan arwain y trefniadau ymarferol a diogelwch yn aml, yn ogystal â hyfforddi cydweithwyr iau.
Mae wedi ymchwilio i sut mae dŵr a’r tywydd yn effeithio ar ymddygiad Llen Iâ’r Ynys Las, o astudio draeniad cyflym llynnoedd mawr ar yr arwyneb i ddangos sut y gall afonydd atmosfferig cynnes, llawn lleithder, gyflymu’r toddi.
Mae hefyd wedi astudio amodau ffisegol llif cyflym rhewlifoedd drwy osod offerynnau mewn tyllau turio un cilomedr o ddyfnder, a ddriliwyd gan ddefnyddio technegau y mae Prifysgol Aberystwyth yn arbenigo ynddynt.
Ar hyn o bryd mae'n astudio sut mae llynnoedd cudd o dan yr iâ yn llenwi a draenio, ac yn defnyddio synwyryddion sensitif i fonitro dirgryniadau’r ddaear er mwyn mesur faint o ddŵr tawdd sy'n llifo o Len Iâ’r Ynys Las i'r cefnfor.
Dr Doyle yw'r pedwerydd ymchwilydd o Brifysgol Aberystwyth i dderbyn y Fedal Begynol, ac mae’n ymuno â'r Athro Bryn Hubbard, Michael Hambrey, a Julian Dowdeswell.
Dywedodd yr Athro Angela Hatton, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Llongyfarchiadau mawr i Dr Doyle ar dderbyn yr anrhydedd cwbl haeddiannol hwn. Mae ei lwyddiant yn enghraifft o gyfraniad hirsefydlog ein hacademyddion i hyrwyddo ein dealltwriaeth wyddonol o amgylcheddau’r pegynau, sy'n newid yn gyflym. Mae’r ffaith mai Dr Doyle fydd y pedwerydd aelod o gymuned y Brifysgol i dderbyn y Fedal Begynol yn tystio i'w waith eithriadol, ond mae hefyd yn adlewyrchiad o genhadaeth Prifysgol Aberystwyth i ysbrydoli cenedlaethau o bobl ar draws y byd i newid bywydau er gwell: meithrin gwybodaeth, adeiladu cymunedau a chryfhau Cymru a'r byd ehangach."