Enwi Daearyddwyr Prifysgol Aberystwyth yn Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Yr Athro Sarah Davies a’r Athro Peter Merriman

Yr Athro Sarah Davies a’r Athro Peter Merriman

30 Ebrill 2026

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi enwi dau ddaearyddwr blaenllaw o Brifysgol Aberystwyth ymhlith ei Chymrodyr newydd, un o anrhydeddau academaidd pwysicaf Cymru.

Mae'r Athro Sarah Davies, Pennaeth yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, a'r Athro Peter Merriman, Athro Daearyddiaeth Ddynol, ill dau wedi cael eu cydnabod am eu cyfraniadau rhagorol at ymchwil ac ysgolheictod yn eu meysydd.

Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth academaidd. Etholir Cymrodyr yn dilyn asesiad trylwyr o’u cyflawniadau a’u heffaith yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Mae ymchwil yr Athro Sarah Davies yn canolbwyntio ar ail-greu newid hinsoddol ac amgylcheddol dros amrywiaeth o raddfeydd amser, gan integreiddio archifau gwaddodol a dogfennol. Mae hi'n arbennig o awyddus i weld sut mae pobl, yr hinsawdd a'r amgylchedd yn rhyngweithio â'i gilydd. Mae ei hymchwil gyfredol yn cynnwys ymchwilio i effeithiau newid hinsawdd ac eithafion tywydd ar dirweddau a threftadaeth yr arfordir.

Dywedodd yr Athro Davies, Pennaeth yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear:

“Mae’n anrhydedd i mi gael fy ethol i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Rwyf wedi bod yn ffodus i dreulio fy ngyrfa academaidd yng Nghymru, gan weithio ochr yn ochr â staff, myfyrwyr a chydweithwyr ymchwil gwych ac mae’r gydnabyddiaeth hon yn gryn fraint. Rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu at y Gymdeithas, hyrwyddo ymchwil academaidd a chefnogi datblygiad y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr yng Nghymru.”

Mae'r Athro Peter Merriman yn ffigwr blaenllaw ym maes daearyddiaeth ddiwylliannol-hanesyddol a maes amlddisgyblaethol astudiaethau symudedd. Mae wedi ysgrifennu'n helaeth ar ddulliau damcaniaethol o ymdrin â gofod, lle, symudedd, a hunaniaeth genedlaethol. Mae hefyd wedi ymgymryd â phrosiectau ymchwil i hanes gyrru ym Mhrydain; Hanes porthladdoedd Cymru ac Iwerddon; Gŵyl Prydain 1951; a chenedlaetholdeb a hunaniaeth genedlaethol Cymru.

Dywedodd yr Athro Merriman:

“Rwy’ wrth fy modd o gael fy ethol ac i ymuno â grŵp o ysgolheigion mor uchel ei barch, o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Rwy’n falch o’r ymchwil rwy’ wedi’i wneud mewn daearyddiaeth ddiwylliannol a hanesyddol, yn enwedig fy ymchwil sy’n canolbwyntio ar Gymru.”

Meddai Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru:

“Mae croesawu ein Cymrodyr newydd i'r Gymdeithas bob amser yn un o brif uchafbwyntiau blwyddyn y Gymdeithas.  Hoffwn eu llongyfarch nhw ar y gydnabyddiaeth hon o ragoriaeth a phwysigrwydd eu gwaith a'u cyfraniadau i fywyd yng Nghymru a thu hwnt. Rydym yn edrych ymlaen at ddefnyddio eu profiad a'u gwybodaeth yn ein gwaith ar bolisi a datblygiad ymchwilwyr.”