Mapio pleidlais Brexit – ymchwilwyr yn apelio am y brasgyfrifon cudd o’r blychau

Credyd: Y Comisiwn Etholiadol
12 Mai 2026
Mae deng mlynedd ers y refferendwm ar aelodaeth y DU o’r Undeb Ewropeaidd, ac mae ymgais uchelgeisiol ar y gweill i lunio’r map mwyaf manwl hyd yma o batrwm pleidleisio Brexit.
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn apelio ar ymgyrchwyr, ymgyrchwyr y pleidiau ac arsylwyr y refferendwm i fynd ati i edrych am y cyfrifon anffurfiol – y ‘brasgyfrifon o’r blychau’ - a gofnodwyd pan agorwyd y blychau pleidleisio ar noson y refferendwm.
Adroddwyd canlyniadau swyddogol y refferendwm ar lefel yr awdurdod lleol, gan roi trosolwg eang yn unig o natur y gefnogaeth dros Adael ac Aros.
Yr hyn sy’n cael ei guddio, fodd bynnag, gan y ffigurau hyn yw manylder y patrwm o fewn cymunedau: a bleidleisiodd maestrefi yn wahanol i ganol dinasoedd, sut oedd trefi bach yn cymharu ag ardaloedd gwledig cyfagos, neu pa raniadau oedd yn bodoli o fewn cymdogaethau lleol.
Er mwyn dod o hyd i’r nodweddion dyfnach hyn, mae'r tîm ymchwil, dan arweiniad yr Athro Michael Woods yng Nghanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, yn chwilio am y brasgyfrifon answyddogol a gymerwyd o’r blychau wrth wirio’r cyfrif.
Gallai'r cyfrifon anffurfiol hyn, a gofnodwyd cyn i'r cyfrif ffurfiol ddechrau, daflu goleuni prin ar sut y pleidleisiodd cymdogaethau ac ardaloedd penodol.
Meddai'r Athro Woods:
"Refferendwm yr UE oedd y digwyddiad diffiniol yng ngwleidyddiaeth ddiweddar Prydain ac mae wedi ffurfio ein tirwedd wleidyddol dros y degawd diwethaf. Rydym yn aml yn siarad am 'yr ardaloedd Gadael' a’r 'ardaloedd Aros', ond dydyn ni ddim yn gwybod sut y pleidleisiodd cymunedau islaw lefel yr awdurdodau lleol. Trwy ddod â brasgyfrifon o’r blychau ynghyd o bob cwr o’r DU, gallwn greu darlun llawer mwy manwl o ble roedd y gefnogaeth i Brexit gryfaf, ble roedd y gefnogaeth wanaf, a sut mae'r patrymau hyn yn ymwneud â gwahanol fathau o leoedd.
"Gan mai cofnodion answyddogol o’r refferendwm yw’r brasgyfrifon o’r blychau, does neb wedi eu casglu ynghyd, ond byddant yn dal i gael eu cadw ar gyfrifiaduron pobl neu wedi eu harchifo mewn hen ffolderi ymgyrchu. Rydyn ni’n annog unrhyw un sydd wedi eu cofnodi neu eu coladu i fynd ati i edrych amdanyn nhw a’u hanfon atom ni.”
Mae'r tîm wedi datblygu proses drylwyr i wirio a chywiro unrhyw ragfarn bosibl, ac wedi sefydlu mesurau diogelu i sicrhau y cydymffurfir â gofynion preifatrwydd.
Gall ymgyrchwyr y refferendwm sydd am gyfrannu brasgyfrifon o’r blychau ddod o hyd i fanylion llawn ar sut i'w cyflwyno ar dudalen Substack Cyfiawnder Gofodol Gwledig Rural Spatial Justice: https://ruralspatialjustice.substack.com/p/do-you-have-boxcounts-from-the-2016
Mae'r astudiaeth yn rhan o'r prosiect ymchwil ehangach Anfodlonrwydd Gwledig, Cyfiawnder Gofodol a Gwleidyddiaeth Aflonyddgar, a ariennir gan Gynllun Gwarant Ymchwil Ffiniau’r DU, sy'n ymchwilio i’r cysylltiadau rhwng anfodlonrwydd gwledig a gwleidyddiaeth boblogaidd ac aflonyddgar yn fyd-eang.