Ysgolion Astudio i Ddod

Rhaglenni Dysgu o Bell Uwchraddedig

Ysgolion Astudio Uwchraddedig – Gwanwyn 2024

Cynhelir ysgolion astudio rhagarweiniol ar gyfer uwchraddedigion dysgu o bell newydd sy'n dechrau yng ngwanwyn 2024 ar-lein (nid preswyl) ar gyfer yr wythnos sy'n cychwyn ar:

  • Dydd Llun 8 Ebrill 2024

Er bod yr ysgol ar-lein, rydym yn argymell bod myfyrwyr yn clirio eu calendr i fynychu'r ysgol. Bydd mwy o wybodaeth yn dilyn.

 

Ysgolion Astudio Uwchraddedig – Medi 2024

Bydd ysgolion astudio rhagarweiniol ar gyfer uwchraddedigion dysgu o bell newydd sy'n dechrau ym mis Medi 2024 yn rhai preswyl (nid ar-lein) yn Aberystwyth ar yr wythnos sy’n cychwyn ar:

  • Dydd Llun 9 Medi 2024 i ddydd Gwener 13 Medi 2024 (Mwy o wybodaeth i ddilyn)

BSc Israddedig Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgell

Ysgol Astudio Israddedig - Gwanwyn 2024

Cynhelir ysgolion astudio rhagarweiniol ar gyfer israddedigion dysgu o bell newydd sy'n dechrau yng ngwanwyn 2024 ar-lein.

Cynhelir y rhain ar yr wythnos sy’n cychwyn ar:

Ddydd Llun 8 Ebrill 2024

Ar gyfer yr ysgol hon, bydd rhai sesiynau'n 'fyw' ar-lein drwy Teams a byddwch hefyd yn cael mynediad i'ch modiwl cyntaf ac i wybodaeth am y cwrs drwy ardal Blackboard yr Adran.

Er bod yr ysgol ar-lein, rydym yn argymell bod myfyrwyr yn clirio eu calendr i fynychu'r ysgol. Mae hyn i roi cyfle i fyfyrwyr ddechrau arni ar eu modiwl cyntaf a’u hastudiaethau rhwng y sesiynau byw gyda chefnogaeth gan staff.

Bydd gwybodaeth, gan gynnwys amserlenni, yn cael ei he-bostio at fyfyrwyr cofrestredig cyn yr ysgol ragarweiniol ar-lein.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r Cydlynydd Marianne Taylor yn mmt@aber.ac.uk  neu â'r Adran dis-dept@aber.ac.uk