Enillodd Sarah Hall radd Astudiaethau Plentyndod yn 2013. Mae hi bellach yn gweithio fel cenhades yng ngwlad Groeg.

“Dod i Brifysgol Aberystwyth i astudio Astudiaethau Plentyndod yw un o’r penderfyniadau gorau a wneuthum erioed! Mae’r adran yn rhagorol! Mae’r staff bob amser ar gael i’ch helpu chi ag unrhyw beth ac yn rhoi addysg y myfyrwyr yn gyntaf bob tro. Wrth ystyried a ddylwn astudio yma, trefnais apwyntiad i siarad ag un o’r darlithwyr am y cwrs, ac roeddent yn fwy na pharod i gwrdd â fi ac egluro ac ateb fy nghwestiynau! Mae fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth o Addysg a Seicoleg wedi cynyddu’n ddirfawr. Mae safon y darlithoedd a’r seminarau yn uchel iawn ac yn ennyn diddordeb yn ogystal â bod yn rhyngweithiol! Mae’r llyfrgell yn wych ac mae’n hawdd dod o hyd i bob dim yno! Pe bawn i’n gallu dilyn y cwrs eto mi fyddwn i’n gwneud!”