Ar ôl 3 blynedd o astudio BA Astudiaethau Plentyndod ym Mhrifysgol Aberystwyth, penderfynais ei bod hi’n hen bryd teithio. Dechreuais ymddiddori yn y posibilrwydd o ddysgu Saesneg wrth ysgrifennu fy nhraethawd estynedig a bûm wrthi’n ymchwilio i ffyrdd o ddysgu Saesneg fel ail iaith i blant iau. Yn fuan ar ôl dod i benderfyniad, cefais fy nerbyn ar gyfer interniaeth gydag asiantaeth recriwtio o’r enw Echo English. Wedi hynny, cefais swydd mewn ysgol ryngwladol newydd sbon yng ngogledd Gwlad Thai. Enw’r ysgol yw Ysgol Ryngwladol Cranberry.

Roedd angen siaradwr Saesneg brodorol arnynt â chymhwyster Astudiaethau Plentyndod Cynnar. Cefais le i fyw, gwneud ffrindiau ac ymgartrefu yng ngwlad Thai. Bob dydd, byddaf yn dysgu plant rhwng 2 a 4 oed. Rwy’n defnyddio llawer ar fy ngradd wrth asesu datblygiad a deall eu ffyrdd. Rwy’n eu dysgu yn Saesneg a byddant yn dysgu geiriau newydd bob dydd. Mae’r swydd yn rhoi llawer o foddhad ac rwy’n profi diwylliant newydd ar yr un pryd!