Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2024

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn dathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol merched ar draws y byd. Mae’r diwrnod hefyd yn nodi’r galw am gyflymu ein camau tuag at sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau.

#IWD2024 #InspireInclusion

Rydym yn falch iawn o nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth. Mae sawl digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnos.

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gwahoddwn chi i enwebu aelodau o staff sy'n nodi eu bod yn  fenywod neu'n anneuaidd er mwyn cydnabod eu cyfraniad i ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth. Anogwn  chi i edrych y tu hwnt i'r rhai sy'n cael eu dathlu'n draddodiadol ac i gyfrannu i amharu ar y dulliau amlycaf o gynrychioli llwyddiant.

Mewn amgylchedd ymchwil sy’n ffynnu, yn rhy aml mae rhai cyfraniadau penodol yn mynd heb gael eu gweld, o gyfraniadau academyddion nad yw eu hymchwil yn cael digon o gydnabyddiaeth, i gyfraniadau technegwyr,  llyfrgellwyr, gweinyddwyr, a llawer mwy. Mae rhywedd yn chwarae rhan yn aml. Croesewir hefyd enwebiadau  sy'n adlewyrchu'r gorgyffwrdd rhwng mathau o hunaniaeth, megis rhywedd a hil, ethnigrwydd, crefydd, oed,  rhywioldeb, dosbarth, statws yn rhiant, rhai ag anableddau, neu unrhyw hunaniaeth berthnasol arall . Os  ydynt yn gymwys yn ôl y meini prawf, bydd Gwobrau Amlygu yn cydnabod pawb a enwebir. Anfonwch yr enwebiadau erbyn 1af Mawrth at: caw113@aber.ac.uk.