Hil

Yn 2020, cymeradwyodd Gweithrediaeth a Chyngor y Brifysgol Gynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024. Yn ôl ein sylfaen dystiolaeth, nid oes digon o gydraddoldeb rhwng y rhywiau ymhlith academyddion uwch yn benodol, nac ychwaith gynrychiolaeth ddigonol o ethnigrwydd ymhlith ein staff a’n myfyrwyr.  

 

Cynllun Gweithredu ar Hil

Ymunon â rhaglen wella dan nawdd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i ddatblygu cydraddoldeb hiliol mewn addysg uwch: Prosiect Cydweithredol Race Access and Success. Cynlluniwyd y rhaglen hon ar gyfer Cymru gyfan er mwyn cynorthwyo prifysgolion Cymru i wella cydraddoldeb hiliol. Trwy gyfrwng cyfres o weithdai, setiau cynllunio gweithredu ac ymgynghori, cawsom ein cefnogi i symud ymlaen ar gyflymder ac mewn mannau a oedd yn addas i’n hanghenion ni fel sefydliad. Cam olaf y prosiect oedd datblygu a gweithredu Cynllun Gweithredu ar Hil. Rydym wedi gweithio ar ddrafftio'r Cynllun Gweithredu ar Hil hwn gyda chynrychiolwyr ymhlith y staff a myfyrwyr  Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ac ymgynghorydd ar ran Advance HE. Mae'r Cynllun Gweithredu ar Hil wedi cael ei gymeradwyo. Byddwn yn awr yn dechrau gweithio ar lansio'r cynllun gweithredu ar hil hwn yn 2022.

 

Dim Hiliaeth Cymru

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymrwymo i hybu agwedd goddef dim hiliaeth ym mhob rhan o'r Brifysgol, a golyga hyn:

  • Fe wnawn sefyll yn erbyn hiliaeth a hyrwyddo cymdeithas fwy cynhwysol a chydradd i bawb.
  • Ni wnawn oddef rhagfarn hiliol, gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth, camdriniaeth na thrais yn erbyn unrhyw unigolyn.
  • Fe wnawn sefyll mewn undod, dod ynghyd, a dweud ‘na’ i hiliaeth ar ei holl ffurfiau.
  • Fe wnawn hyrwyddo cysylltiadau hiliol da rhwng pobl o gefndiroedd ethnig amrywiol yn Prifysgol Aberystwyth University.
  • Fe wnawn hyrwyddo cyfleoedd teg a chydradd i bobl o gefndiroedd ethnig amrywiol gael dyrchafiad.
  • Fe wnawn ddileu gwahaniaethu hiliol anghyfreithiol, aflonyddu, erledigaeth a chamdriniaeth.

Adnoddau defnyddiol