Archebu Cyfieithydd IAP

Beth yw Iaith Arwyddion Prydeinig?

Iaith Arwyddion Prydeinig (neu IAP) yw’r iaith sy’n ddewis cyntaf yn y gymuned fyddar; derbynnir yr iaith gan iaethyddion a’r Llywodraeth Brydeinig fel iaith ynddo’i hun.

Nid  meimio ac ystumio yn unig yw IAP, nac system o sillafu. Mae’n iaith weledol sydd, yn debyg i ddau draean o ieithoedd y byd, heb ffurf ysgrifenedig. Mae gan IAP eirfa gyfoethog, strwythur gramadegol a chystrawen yn union fel unrhyw iaith lafar ac ysgrifenedig.

Dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, mae’n rhaid i holl ddarparwyr gwasanaeth wneud newidiadau rhesymol er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau o fewn cyrraedd i bawb, gan gynnwys y bobl sy’n defnyddio IAP. Rhai enghreifftiau o be all fod yn newidiadau ac addasiadau; ailbennu dyletswydd ni all weithwyr anabl gwblhau, darparu man parcio cyfagos ar gyfer gweithwyr anabl, darparu offer angenrheidiol, cyfnewid offer,  ail-leoli gweithwyr anabl i fod mewn rôl sydd ddim yn wynebu’r cyhoedd, caniatáu egwylion rheolaidd er mwyn ymdopi gydag anabledd, ac yn y blaen.

Cofiwch – nid yw pob person byddar yn defnyddio IAP, gofynnwch i'r unigolyn ym mha fodd sydd well ganddynt i gyfathrebu. Os oes well ganddynt i ddefnyddio IAP, efallai bod ganddynt gyfiaethydd maent yn ei ddefnyddio yn barod. Rheolir gyfiaethwyr trwy gorff o’r enw Cofrestr Genedlaethol o Weithwyr Proffesiynol sy’n Gweithio gyda phobl Ddall a Byddar Ddall (NRCPD). Mae'r holl gyfiaethwyr sydd wedi rhwymo i’r NRCPD yn dilyn cod ymddygiad. Golygai hynny bydd rhaid iddynt barchu cyfrinachedd aros yn gwbl ddiduedd.

Sut i archebu cyfathrebydd neu gyfieithydd

Gan fod prinder cenedlaethol o cyfieithwyr sy’n dal y cymwysterau addas, rhaid eu harchebu sawl wythnos ymlaen llaw lle bod modd, neu i fod yn hyblyg o ran dyddiad ac amser.

Pan fyddwch yn archebu Cyfieithydd rhaid darparu’r manylion cychwynnol canlynol:

  • Y math o aseiniad (cyfweliad swydd, cyfarfod, cynhadledd ayb.)
  • Dyddiad, amser a hyd yr apwyntiad.

Os bydd y cyiaethydd ar gael, darparwch ragor o wybodaeth, megis:

  • Pwnc
  • Gofynion
  • Ffioedd
  • Cyfeiriad yr aseiniad
  • Manylion ffon/ffacs
  • Enw’r unigolyn cyswllt
  • Enw a chyfeiriad y person dylai dderbyn yr anfoneb.

Er mwyn archebu Cyfieithydd IAP yng Ngheredigion, cysylltwch â:

Gwasanaeth Cyfieithu a Dehongli Cymru

  • Rhif ffôn: 02920537555

Mi fydd rhaid i holl gostau Gwasanaeth Cyfiaithu a Dehongli Cymru ddod o gyllid adrannol. Os oes unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Dylan Jones, Rheolwr Cydraddoldeb a Chynhwysiant –  cydraddoldeb@aber.ac.uk, rhif ffôn: 01970628424.