Hyfforddiant Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant

Mae gan Brifysgol Aberystwyth ystod o gyrsiau hyfforddiant e-ddysgu ar-lein yn ymwneud â chydraddoldeb, amrywioldeb a chynhwysiant, ac yr ydym yn disgwyl i bob aelod o staff eu cwblhau.

Cyrsiau Ar-lein

  1. Amrywioldeb yn y Gweithle (1 awr)
    • ⁠ymgyfarwyddo â deddfwriaeth cydraddoldeb
    • meithrin dealltwriaeth o'r materion ehangach sy'n cwmpasu cydraddoldeb ac amrywioldeb
    • gwella eu hymwybyddiaeth o'u cyfrifoldebau a'u hawliau fel aelodau o staff
  2. Rhagfarn Ddiarwybod (30 munud)
    • Bydd 'Torri Arferion' yn helpu eich gweithwyr i ddeall goblygiadau'r rhagfarnau naturiol sydd gennym i gyd.
  3. (Newydd) Gadewch i ni siarad am Hil yn y Gweithle (30 munud)
    • Cefnogi dysgwyr i fynd i'r afael â rhagfarn hiliol yn eu sefydliad a gwneud hynny yn ymwybodol ac yn rhagweithiol.
    • Cyflwyno’r ffeithiau a'r ystyriaethau ynghylch hiliaeth systemig mewn sefydliadau. 

Caiff yr hyfforddiant ei ddarparu trwy gyfrwng tiwtorial ar-lein.  ⁠Gellir cyflawni'r tiwtorial mewn un eisteddiad neu ar fwy nag un achlysur fel sy'n gyfleus. Mae'r cwrs Amrywioldeb yn y Gweithle yn cynnwys cwis y mae'n rhaid ei gwblhau er mwyn gorffen yr hyfforddiant.  Bydd marciau'r cwis yn cael eu cadw a byddant yn cael eu defnyddio i nodi anghenion hyfforddi pellach ar gyfer staff.

Mae'r hyfforddiant yn arbennig o bwysig i aelodau o staff sy'n ymgymryd â'r rolau a'r cyfrifoldebau canlynol yn y Brifysgol:

  • Rheolwr Llinell
  • Rheolwyr recriwtio, aelodau'r panel cyfweld a chreu rhestr fer cyn dewis ymgeiswyr ar gyfer rhestr fer neu gyfweliad.  
  • Prif-ymchwilydd/cyd-ymchwilydd ar brosiect ymchwil.
  • Staff sy'n cymryd rhan mewn pwyllgorau, is-bwyllgorau a grwpiau gweithredol.

Mae'r cwrs ar-lein uchod ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Bedair blynedd ar ôl cwblhau'r cwrs, bydd staff yn cael eu hailgofrestru i ail-wneud y cwrs er mwyn cynnal eu dealltwriaeth o Gydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant a’u gwybodaeth am unrhyw newidiadau dilynol yn y gyfraith a/neu arferion gorau.  

Beth sy'n digwydd i'ch data?

Bydd eich data personol yn cael ei gadw'n ddiogel ar weinyddwyr sydd wedi'u lleoli yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd ac wedi'i ddiogelu rhag prosesu anghyfreithlon neu anawdurdodedig a rhag difrod neu ddileu drwy ddamwain.  Mae'r darparwr gwasanaeth trydydd parti wedi gweithredu mesurau priodol, yn unol â gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018.

Y tîm Adnoddau Dynol yn unig all gael gafael ar y data a chaiff ei gadw cyhyd â’ch bod yn aelod cyflogedig o staff y Brifysgol.  Bydd y Brifysgol yn prosesu'r data hwn mewn perthynas â rhwymedigaethau cytundebol aelodau staff ac mewn ymateb i'r rhwymedigaethau cyfreithiol y mae'r Brifysgol yn ddarostyngedig iddynt.  Mae gennych chi rai hawliau dros eich data sy'n cael eu crynhoi yma.

Lle a sut i fewngofnodi?

https://learnupon.aber.ac.uk/

Defnyddiwch eich enw defnyddiwr a chyfrinair PA arferol.

Os oes unrhyw broblemau wrth ddefnyddio’r sesiynau tiwtorial hyn, cysylltwch â Dylan Jones equality@aber.ac.uk

Hyfforddiant wyneb yn wyneb

Gall y tîm Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant hefyd gynnig hyfforddiant cydraddoldeb ac amrywioldeb wyneb yn wyneb i adrannau a grwpiau o staff. Os hoffech drafod yr opsiwn yma ar gyfer eich staff cysylltwch ag equality@aber.ac.uk.

Cyrsiau Hyfforddi a Datblygu eraill

Mae'r Brifysgol yn trefnu cyrsiau hyfforddi a datblygu eraill yn rheolaidd i staff - gallwch ddod o hyd i'r rhestr ddiweddaraf a rhagor o wybodaeth yma