Cyfleusterau cynhwysol

Ein nod yw gwneud ein campysau yn groesawgar, yn hygyrch ac yn gynhwysol i bob myfyriwr, staff ac ymwelydd.

Isod mae rhai o'n cyfleusterau, ystafelloedd a gwasanaethau cynhwysol.

Cyfleusterau ar gyfer Bwydo ar y fron, Tynnu llaeth a Bwydo o’r botel

Mwy o wybodaeth: Bwydo eich babi

Mae campysau'r Brifysgol yn gwbl gyfeillgar i fwydo ar y fron ac nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran bwydo o’r botel neu fwydo ar y fron. Rydym yn deall y gallai fod yn well gan rieni weithiau gael man preifat, tawel a diogel i fwydo’u baban (o’r botel neu ar y fron) neu i dynnu llaeth.

Mae gennym ystafelloedd pwrpasol ar gyfer bwydo ar y fron/tynnu llaeth i gynorthwyo staff a myfyrwyr sy’n bwydo ar y fron, neu i’w defnyddio gan gydweithwyr beichiog sydd angen man preifat i orffwys. Mae’r cyfleusterau hyn yn agored i’r holl fyfyrwyr a staff.

Gofod Ffydd Y Brifysgol

Mwy o wybodaeth: Darpariaeth Ffydd

Yn y Gofod Ffydd gall aelodau o gymuned ein Prifysgol weddïo, cwrdd ac ymlacio – i ddefnyddio’r gofod, ewch i Galendr y ‘Gofod Ffydd’ a nodi pryd yr hoffech ei ddefnyddio.

Canllawiau Hygyrchedd Campysau

Mwy o wybodaeth: https://www.accessable.co.uk/organisations/aberystwyth-university

Mewn cydweithrediad ag AccessAble, un o brif ddarparwyr gwybodaeth hygyrchedd i bobl anabl yn y DU, mae Prifysgol Aberystwyth wedi creu canllaw ar-lein i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr. Bydd yr adnoddau ar-lein hyn yn galluogi ymwelwyr i'r campws i ddewis ble i fynd ar y campws a sut i gyrraedd yno. Mae hefyd yn golygu bod gwybodaeth am hygyrchedd adeiladau a chyfleusterau ar draws y campws i gyd mewn un lle, gan ei gwneud hi’n haws i gynllunio teithiau.