Diwrnod Cofio'r Holocost 2026
Bridging Generations: How my parents survived the Holocaust in Slovakia and Poland as young teenagers
- Dydd Mercher 28 Ionawr, 1.15pm - 3.00yp
- Ty Trafod, Y Ganolfan Ddelweddu
- Cofrestrwch YMA neu ebostiwch Dylan Jones (dej20@aber.ac.uk) i gadarnhau
Dr Bea Lewkowicz, Cyfarwyddwr, Archif Tystiolaeth Lleisiau Ffoaduriaid AJR Archif Tystiolaeth Lleisiau Ffoaduriaid AJR ac Arweinydd Prosiect, Porth Tystiolaeth yr Holocost y DU Tystiolaeth yr Holocost yn y DU
Yn y sgwrs hon, mae Dr Bea Lewkowicz yn edrych ar brofiadau Holocost ei rhieni, Gertrud Friedmann a Josef Lewkowicz, gan osod eu hanesion personol yng nghyd-destun ehangach erledigaeth Iddewon yn Slofacia a Gwlad Pwyl pan oedd y wlad honno wedi’i meddiannu. Gan ddefnyddio tystiolaeth a recordiwyd a thystiolaeth ysgrifenedig ei rhieni, mae'r sgwrs yn ystyried llwybrau goroesi cyferbyniol ond sydd eto wedi’u cydgysylltu, gan gynnwys cuddio, hunaniaethau ffug, allgludo, llafur dan orfodaeth, a charcharu mewn gwersylloedd crynhoi. Mae Bea yn ystyried ymhellach ei magwraeth ei hun yn yr Almaen, y distawrwydd ar ôl y rhyfel, trosglwyddo atgofion, a rôl y genhedlaeth nesaf wrth gadw a lledaenu naratifau goroeswyr.
Bydd te a choffi ar gael. Mae'r digwyddiad i goffáu Diwrnod Cofio'r Holocost 2026 yn agored bawb.
Amserlen
- 1.15yp Te, coffi a rhwydweithio
- 1.30yp Sgwrs gan Bea Lewkowicz
- 2.30yp Sesiwn holi ac ateb
- 3.00yp Diwedd
