Mis Hanes LHDT+ 2023

Mae Mis Hanes LHDT+ i bawb; p'un a ydych yn gweithio ym myd addysg, amgueddfa, llyfrgell neu oriel gelf, busnes, gwasanaeth, aelod o rwydwaith/grŵp cymdeithasol neu unigolyn.

Mae’n cael ei ddathlu bob mis Chwefror ar draws y DU, ac fe’i sefydlwyd yn 2004 gan gyd-gadeiryddion Schools OUT, Paul Patrick a’r Athro Emeritws Sue Sanders. 

Bob blwyddyn mae Schools OUT yn gosod thema wahanol ar gyfer Mis Hanes LHDT+ ac yn darparu adnoddau rhad ac am ddim ar gyfer lleoliadau addysg, busnesau, gwasanaethau a sefydliadau i'w helpu i ddathlu bywydau LHDT+ yn eu hamrywiaeth lawn.

Thema Mis Hanes LHDT+ 2023 yw #BehindTheLens - i ddathlu cyfraniad pobl LHDT+ i sinema a ffilm o’r tu ôl i’r lens. Cyfarwyddwyr, sinematograffwyr, ysgrifenwyr sgrin, cynhyrchwyr, animeiddwyr, dylunwyr gwisgoedd, effeithiau arbennig, artistiaid colur, cyfarwyddwyr goleuo, cerddorion, coreograffwyr a thu hwnt.

Digwyddiadau ac Adnoddau

Copyright © 2023 Voices and Visibility. All rights reserved.