Mis Hanes Pobl Dduon 2025

Bydd Mis Hanes Pobl Dduon yn y DU yn cael ei ddathlu o Hydref 1 i Hydref 31, 2025. Mae'r mis hwn wedi'i gysegru i gydnabod hanes, cyflawniadau a chyfraniadau unigolion a chymunedau Duon.

Eleni mae gennym ddigwyddiad arbennig ar 16 Hydref sydd ar agor i bob myfyriwr a aelod staff - cofrestrwch yma os gwelwch yn dda.

Digwyddiad Mis Hanes Pobl Dduon 2025

16 Hydref 2025, 1-3yp

Ymunwch â ni yn y Tŷ Trafod i ddathlu gwaith Jasmine Violet, Sugar Coated.

Bydd ffilm Jasmine, SugarCoated, yn cael ei dangos, sy'n archwilio i'r cysylltiadau rhwng diwydiant llechi Gogledd Cymru, teulu Pennant o Ystâd y Penrhyn yng Ngwynedd a’r planhigfeydd siwgr yr oedd caethweision yn gweithio ynddynt yn Jamaica. Bydd cyfweliad gyda Jasmine hefyd i ddeall y broses greadigol y tu ôl i'r gwaith, a sesiwn holi ac ateb ar gyfer aelodau'r gynulleidfa sydd â'u cwestiynau eu hunain

Mae Sugar Coated yn rhan o Safbwynt(iau) sy'n gydweithrediad rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru, sy'n ceisio newid y ffordd y mae'r sector celfyddydau gweledol a threftadaeth yn adlewyrchu amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig ein cymdeithas. Mae'r prosiect yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru yn rhan o ymdrech ar y cyd i gyflawni nodau diwylliant a threftadaeth Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Rhaglen:

  • 1yp: Croeso a chyflwyniadau
  • 1.10yp Colonial philanthropy in Welsh Higher Education
  • 1.20yp: Dangos Sugar Coated, ffilm gan Jasmine Violet
  • 1:30yp: Cyfweliad gyda Jasmine Violet
  • 1.45yp: Sesiwn Holi ac Ateb i’r Gynulleidfa
  • 2.30yp: Arddangos deunyddiau