Rhwydwaith Menywod mewn Ymchwil 

Sefydlwyd Menywod mewn Ymchwil Prifysgol Aberystwyth (WIRN) gan y brifysgol ar gyfer pob aelod o staff sy'n nodi eu bod yn fenywaidd neu’n anneuaidd ac sydd â diddordeb mewn ymchwil waeth beth fo'u gradd, gradd eu swydd neu hyd eu contract.

Amcanion y Rhwydwaith Menywod mewn Ymchwil yw:

  • Darparu fforwm ar gyfer staff sy'n nodi eu bod yn fenywaidd (gan gynnwys menywod cydryweddol a menywod traws) neu’n anneuaidd i rwydweithio, trafod a chodi ymwybyddiaeth o faterion sy'n ymwneud â chydraddoldeb rhyweddol ym maes ymchwil
  • Rhoi cefnogaeth broffesiynol a darparu cyfleoedd i rwydweithio sy'n hyrwyddo menywod ym maes ymchwil
  • Darparu cyfleoedd i hyfforddi ac i ddatblygu gan gyfeirio aelodau tuag at y cyfleoedd hyn er mwyn hyrwyddo menywod ym maes ymchwil
  • Rhoi llais i aelodau o staff ymchwil sy'n nodi eu bod yn fenywod neu'n anneuaidd, gan gynnig cymorth a modd i gyfathrebu â'r Brifysgol ar faterion cydraddoldeb rhyweddol sy'n effeithio ar ymchwil o ran polisïau ac arferion y Brifysgol  
  • Cynorthwyo i ddatblygu polisi ar faterion sy’n codi ymhlith staff ynglŷn â Chydraddoldeb Rhyweddol drwy roi cyngor ac adborth i Adnoddau Dynol, y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi a phwyllgorau perthnasol eraill y Brifysgol
  • Gweithio gyda chyn-fyfyrwyr i ddatblygu cysylltiadau strategol, gwella’r broses o hyrwyddo a datblygu proffil ac ymchwil menywod yn y byd academaidd
  • Ein nod yw cydlynu â grwpiau a rhwydweithiau eraill sy’n ymwneud â chydraddoldeb ym Mhrifysgol Aberystwyth.   Hoffem hefyd gydweithio â Rhwydweithiau Menywod mewn Ymchwil eraill neu gyrff tebyg eraill y tu hwnt i Brifysgol Aberystwyth.  

Beth mae pwyllgor trefnu Rhwydwaith Menywod mewn Ymchwil yn ei wneud?

  • Trefnu digwyddiadau ar themâu wedi eu seilio ar amrywiaeth o bynciau perthnasol.   Mae'r rhain yn agored i unrhyw aelod o staff sy'n ymwneud ag ymchwil sy'n nodi eu bod yn fenywod neu'n anneuaidd ac/neu'n awyddus i sicrhau cydraddoldeb rhyweddol mewn ymchwil.  Rydym yn falch iawn o groesawu aelodau newydd a chyfraniadau gan aelodau newydd.  Ein nod yw cymryd rhan mewn o leiaf dau o ddigwyddiadau’r Rhwydwaith bob blwyddyn.
  • Meithrin cyswllt â seilwaith Prifysgol Aberystwyth i lunio a gwella polisi ac arferion sy'n effeithio ar fenywod mewn ymchwil.  Mae hyn yn cynnwys llunio adroddiadau fel rhan o gynnyrch digwyddiadau’r Rhwydwaith.

Sut ydw i'n ymuno â Rhwydwaith Menywod mewn Ymchwil?

Nid oes angen cofrestru yn ffurfiol i ymuno â'r Rhwydwaith Menywod mewn Ymchwil nac i gymryd rhan mewn digwyddiadau.  Mae aelodaeth o’r Rhwydwaith yn wirfoddol ac yn agored i bob aelod o staff Prifysgol Aberystwyth sy'n nodi eu bod yn fenywaidd neu’n anneuaidd ac sydd â diddordeb mewn ymchwil waeth beth fo'u gradd, gradd eu swydd neu hyd eu contract.   Mae digwyddiadau’r Rhwydwaith yn agored i unrhyw aelod o staff sy'n ymwneud ag ymchwil sy'n nodi eu bod yn fenywod neu'n anneuaidd ac/neu'n awyddus i sicrhau cydraddoldeb rhyweddol mewn ymchwil.

Mae manylion cyfarfodydd a digwyddiadau’r Rhwydwaith yn cael eu dosbarthu trwy e-bost, gan gynnwys e-bost wythnosol PA i’r staff.

Efallai y bydd cydweithwyr hefyd yn dymuno ymuno â safle Rhwydwaith Menywod mewn Ymchwil ar ‘Teams’, a gellir dod o hyd iddo ar safle Fforwm Ymchwil y Brifysgol ar ‘Teams’.   Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Dylan Jones [dej20@aber.ac.uk | 01970 62 8424]