Mrs Sue Neville

Mrs Sue Neville

Rheolwr Prosiect

Ymchwil, Busnes ac Arloesi

Manylion Cyswllt

Proffil

Dyddiad ymuno a swydd flaenorol

Ymunodd Sue ag YBA ym mis Gorffennaf 2022. O 2017, bu’n gweithio yn yr Adran Ystadau fel Rheolwr Diogelwch. Cyn rheoli Diogelwch, hi oedd Rheolwr Bywyd Campws ar gyfer yr holl gyfleusterau meddal yn adeiladau academaidd y Brifysgol a chydlynodd dîm o 80 o staff.

Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol

Yn rôl flaenorol Sue roedd yn gyfrifol am weithrediadau dydd i ddydd y gwasanaeth rheng flaen 24/7 ac yn rheolwr llinell 40 o staff. Hi oedd yn atebol am yr adroddiadau digwyddiad, yr holl ddigwyddiadau yn ymwneud â diogelwch megis lles myfyrwyr / staff, lladrad, defnydd o gyffuriau, fandaliaeth, a gwacáu tân ac ati.

Addysg a phrofiad gwaith

Mae gan Sue ddiploma Rheoli Busnes a chymhwyster Rheoli Prosiect gydag APM (corff siartredig ar gyfer y proffesiwn prosiect). Cyn ymuno â’r Brifysgol yn 2016, bu’n Rheolwr Busnes Ysgol am 11 mlynedd gyda chyfrifoldeb penodol am reolaeth ariannol yr ysgol.

Profiad a gwybodaeth

Mae profiad Sue yn cynnwys rheoli ariannol a rheoli prosiectau.

Prif gyfrifoldebau o fewn YBA

Ar hyn o bryd, mae Sue yn rhan o’r tîm prosiect sy’n rheoli prosiectau Ymchwil SER Cymru, mae hyn yn cynnwys cadw’r prosiectau ar y trywydd iawn, cefnogi arweinwyr y prosiect, yn ogystal â’r adroddiadau ariannol a’r ffurflenni / hawliadau chwarterol.

Y rhan fwyaf pleserus o gyflogaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae Sue yn mwynhau gweithio mewn sefydliad sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa cyffrous.