Gwybodaeth am Ddiogelu Data

Marchnata a Denu Myfyrwyr

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymrwymedig i ddiogelu preifatrwydd. Mae tîm Marchnata a Denu Myfyrwyr y Brifysgol yn cysylltu â darpar fyfyrwyr [a/neu eu rhieni/gwarcheidwaid] i'w cynorthwyo wrth iddyn nhw geisio penderfynu pa brifysgol i'w dewis.

Mae'r datganiad hwn yn dangos sut yr ydym yn cofnodi, diogelu a defnyddio gwybodaeth breifat neu bersonol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y datganiad, cysylltwch ag ymholiadau@aber.ac.uk

I gael rhagor o wybodaeth am bolisi a chyfarwyddiadau'r Brifysgol ynglŷn â diogelu data, ynghyd â manylion cyswllt y Rheolwr Diogelu Data a Hawlfraint, dilynwch y ddolen isod:

https://www.aber.ac.uk/cy/infocompliance/dp/


Ein dull o grynhoi gwybodaeth

Mae'r Brifysgol yn crynhoi gwybodaeth bersonol ar ddarpar fyfyrwyr posibl [a/neu eu rhieni/warcheidwaid] o sawl ffynhonnell, gan gynnwys:-

  • Cardiau data sy'n cael eu casglu mewn digwyddiadau Cyswllt ag Ysgolion
  • Arolygon (er enghraifft arolwg adborth ar ôl Diwrnod Agored Ar-lein)
  • Cofrestriadau Dyddiau Agored/Dyddiad Agored Ar-lein
  • Cofrestriadau am Deithiau Campws
  • Ffeiriau UCAS
  • Ceisiadau am Brosbectws
  • Ceisiadau ysgoloriaethau
  • Ceisiadau am brosbectws What Uni
  • Cardiau marchnata i rieni
  • Ceisiadau ad hoc yn deillio o ymholiadau am weithgareddau marchnata

Yr wybodaeth sy'n cael ei chrynhoi

Mae'r wybodaeth bersonol sy'n cael ei chrynhoi yn gallu cynnwys eich enw, dyddiad geni, manylion cyswllt yn cynnwys cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn symudol, a'ch rhif UCAS. Ar adegau, rydyn ni hefyd yn gofyn am fanylion am eich rhieni fel y gallwn gysylltu â hwythau yn rhan o'n cynllun marchnata ehangach.


Sut y defnyddiwn yr wybodaeth amdanoch

  • I gynorthwyo gyda'ch cais am fynediad i'r Brifysgol
  • I ddarparu unrhyw wasanaethau ar eich cyfer y gofynnoch amdanynt
  • I'n helpu i wella ein gwasanaethau a'r profiad cyn ymgeisydd
  • I ddosbarthu gwybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal e.e. Dyddiau Agored, Dyddiad Agored Ar-lein, Sgwrsio byw
  • I ddarparu gwybodaeth i'ch cynorthwyo i ddewis prifysgol ar sail gwybodaeth
  • Rhoi'r manylion diweddaraf ichi am y cyrsiau, y rhaglenni gradd, a'r adrannau, sy'n berthnasol i'r dewisiadau a nodwyd gennych
  • I gefnogi eich cais am ysgoloriaeth i'r Brifysgol.

 

Eich caniatâd

  • Wrth roi eich data personol yn unrhyw un o'r sefyllfaoedd uchod, rydych yn caniatáu i'r manylion hyn gael eu crynhoi a'u defnyddio yn unol â'r dibenion a ddisgrifiwyd uchod yn y datganiad hwn ar breifatrwydd.

 

Gwybodaeth amdanoch chi, eich dewis chi

Ar waelod pob neges e-bost mae dull o ddewis peidio â derbyn rhagor, neu gallwch newid eich dewisiadau cyswllt ar unrhyw adeg trwy e-bostio ymholiadau@aber.ac.uk neu ffonio 01970 622065.

Ar ben hyn, mae gennych hawliau yng nghyswllt prosesu data amdanoch ac fe restrir yr hawliau hyn isod; maent yn cynnwys yr hawl i dynnu'n ôl y caniatâd a roesoch i brosesu’r data:

https://www.aber.ac.uk/cy/infocompliance/policies/dp/data-subject-rights/


Ein dull o ddiogelu gwybodaeth bersonol

Caiff data amdanoch ei gadw mewn cronfa-ddata ddiogel, a reolir gan y Brifysgol yn unol â pholisïau diogelu a gwarchod data.

Mae ein cyfathrebiadau electronig a chasglu data yn cael eu cynnal gan ddau gyflenwr allanol (Campus Management a Gecko Engage) o dan gytundeb gyda'r Brifysgol a chyda chamau diogelwch priodol.

Datgelu manylion i drydydd parti

Ac eithrio ein cytundebau gyda Campus Management a Gecko Engage, neu os ydych yn ymgeisio am wobr lle mae angen ymgynghori gyda thrydydd parti, dydyn ni byth yn datgelu manylion personol amdanoch i unrhyw drydydd parti. Ar ben hynny, ni fyddem byth yn gwerthu manylion personol amdanoch i unrhyw drydydd parti.


Pa mor hir y byddwn yn cadw data?

Rydym yn cymryd camau priodol i sicrhau bod y manylion personol a roddir i ni yn cael eu cadw'n ddiogel, yn cael eu cadw ddim ond cyhyd ag sydd angen i'r dibenion y maent yn cael eu defnyddio, ac yna'n cael eu dinistrio neu eu dileu'n barhaol ar ôl hynny.

Wrth roi eich data personol, rydych yn caniatáu iddo gael ei gadw'n ddiogel am gyfnod o 6 mlynedd man pellaf gan dîm Marchnata a Denu Myfyrwyr y Brifysgol, oni bai y byddwch yn penderfynu tynnu allan cyn hynny. Gallai'r data gael ei ddileu cyn pen 6 mlynedd os ydych yn cael mynediad i'r Brifysgol fel myfyriwr cyfredol neu os dewiswch fynd i astudio rhywle arall. Mae data am rai a ddewisodd beidio â thanysgrifio i dderbyn gwybodaeth yn cael ei gadw'n ddiogel er mwyn sicrhau bod eu dewisiadau'n cael eu parchu. 

Sail gyfreithiol yn gysylltiedig â chadw a phrosesu data amdanoch

Fel y nodwyd, byddwn yn prosesu data personol amdanoch yn y dull a ddisgrifiwyd uchod, ar sail cael caniatâd gennych i wneud hynny (amlinellwyd o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (Art. 6 (1)(f).