Rhwydweithio Preifat Rhithwir (VPN)
Mae Rhwydweithio Preifat Rhithwir (VPN) yn creu cysylltiad rhwng eich cyfrifiadur chi a rhwydwaith y Brifysgol.
Bydd hyn yn rhoi mynediad i chi i adnoddau fel pe baech ar y campws neu i ddefnyddio bwrdd gwaith o bell i gyfrifiadur eich swyddfa (staff yn unig) (Sut mae gwneud hynny?)
Nid yw’n rhoi mynediad i chi i’r bwrdd gwaith a’r feddalwedd sydd ar gael yn yr ystafelloedd cyfrifiaduron.
Mynediad i E-adnoddau
- Nid oes raid i chi osod GlobalProtect VPN i gael mynediad i e-adnoddau oddi ar y campws; gellir cael mynediad i’r rhan fwyaf drwy fewngofnodi i Primo a dilyn y cyngor yn y canlyniad pori ar gyfer cael mynediad oddi ar y campws (Sut mae gwneud hynny?)
Gosod VPN
- Wrth ddefnyddio VPN rydych yn rhwym i Reoliadau a Chanllawiau’r Gwasanaethau GwybodaethReoliadau a Chanllawiau’r Gwasanaethau Gwybodaeth a chyn ei ddefnyddio dylech ddarllen ein polisi VPN
- I ddefnyddio VPN bydd arnoch angen cyfrifiadur gyda chysylltiad â’r rhyngrwyd a mynediad i’r Rhyngrwyd
- Mae Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio VPN GlobalProtect ac mae’r gwasanaeth hwn yn gofyn am Awdurdodiad Aml-ffactor pan fyddwch yn cysylltu (Beth yw hwn?).
- Mae cyfarwyddiadau ar gyfer gosod VPN GlobalProtect yn amrywio yn unol â’ch system weithredu:
Defnyddio VPN
Os ydych chi eisiau cael mynediad i adnoddau Prifysgol Aberystwyth dylech:
- gysylltu â’r Rhyngrwyd gan ddefnyddio eich darparwr arferol
- agor VPN GlobalProtect
- deipio eich enw defnyddiwr a chyfrinair PA
- roi Cyfrinair Untro a fydd ar gael yn eich ap awdurdodi dewisol