Cefnogaeth i Staff
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein cydweithwyr a darparu amrywiaeth o wasanaethau lles a chymorth i bawb sy'n gweithio i'r Brifysgol.
Adnoddau Dynol
Mae gan bob adran neu wasanaeth yn y Brifysgol ei thîm AD penodol ei hun os oes angen unrhyw gymorth neu gefnogaeth arnoch. Mae Gwefan AD yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol hefyd, gan gynnwys ymholiadau cyffredinol am wyliau blynyddol, polisïau, pensiynau, buddiannau i staff neu gyflogau.
Rhaglen Cymorth i Staff (EAP) - Cwnsela, cyngor a chefnogaeth
Mae Care First yn darparu cyngor a chymorth diduedd, cyfrinachol a rhad ac am ddim 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, ar bob math o faterion gwaith, teuluol neu bersonol.
- Mae Care First hefyd yn trefnu gweminarau lles misol - gall staff ymuno â’r gweminarau neu wylio'r recordiad ar eu porth ar ôl y digwyddiad.
- Lles Ariannol - Mae Care First yn cynnig cyngor a gwybodaeth ariannol - gan gynnwys mynediad at gyngor arbenigol ar gyllidebu, budd-daliadau, dyled, banciau, cyfuno benthyciadau, biliau cyfleustodau ac amrywiaeth o adnoddau ar-lein.
- Mynediad am ddim i ap iechyd meddwl ardystiedig gan y GIG - My Possible Self - offer a thechnegau rhyngweithiol sy’n defnyddio therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) i helpu i reoli eich lles meddyliol.
Iechyd Galwedigaethol
Mae’r Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol yn gallu cynorthwyo â materion iechyd sy'n effeithio ar eich gwaith, neu os yw gwaith yn effeithio ar eich iechyd - gan ddarparu gwasanaethau cyfrinachol i warchod iechyd staff, i asesu a chynghori ynglŷn ag addasrwydd i weithio, i hyfforddi ac i astudio, er mwyn sicrhau bod trafferthion iechyd yn cael eu rheoli'n effeithiol.
Undebau Llafur
Os ydych chi angen cymorth â mater sy'n gysylltiedig â chyflogaeth, mae’r undebau llafur cydnabyddedig, UCU, Unite ac UNISON yn darparu cymorth a chefnogaeth i'w haelodau.
Canllawiau Hygyrchedd
Partneriaeth y Brifysgol ag AccessAble yw’r adnodd diweddaraf i gefnogi llwybrau a chanllawiau mynediad manwl yn y Brifysgol.
Canolfan y Celfyddydau
Mae Canolfan y Celfyddydau yn cynnig rhaglen eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau gan gynnwys drama, cerddoriaeth glasurol, dawns, cerddoriaeth y byd, ffilm, darlleniadau llenyddiaeth, bandiau byw, opera a chomedi.
Ystafelloedd bwydo ar y fron, tynnu llaeth a bwydo â photel
Mae campysau'r Brifysgol yn croesawu bwydo ar y fron ac nid oes yr un cyfyngiad ar fwydo â photel na bwydo ar y fron. Deallwn efallai y bydd yn well gan rieni weithiau gael man preifat, tawel a diogel i fwydo (â photel neu ar y fron) neu i dynnu llaeth. Mae gennym ystafelloedd penodol ar gyfer tynnu llaeth/bwydo ar y fron i gynorthwyo staff a myfyrwyr sy'n bwydo ar y fron neu i ddarparu mannau gorffwys preifat i fenywod beichiog. Caiff unrhyw fyfyrwyr ac aelodau o staff ddefnyddio'r cyfleusterau hyn.
Cynllun Beicio
Mae'r Brifysgol wedi cyflwyno cynllun beicio i'r gwaith sy'n eich galluogi i brydlesu beic drwy'r Brifysgol dros gyfnod o 12-18 mis (uchafswm gwerth y beic a’r offer diogelwch yw £3,500). Yna gallwch ddewis prynu'r beic ar ddiwedd y cyfnod llogi. Am fwy o fanylion, gweler gwefan y Cynllun Beicio. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gweler Cwestiynau Cyffredin am y Cynllun Beicio , neu fel arall cysylltwch â Jean Glennie ar estyniad 2032 neu jlg@aber.ac.uk.
Gweithio'n Hyblyg
Mae gan Brifysgol Aberystwyth amrywiaeth o bolisïau i alluogi aelodau o staff i fwynhau gwell cydbwysedd rhwng gwaith a’u bywyd personol, e.e. Polisi Gweithio Hyblyg ac amrywiaeth o bolisïau Absenoldeb megis Mabwysiadu, Mamolaeth, Tadolaeth, Absenoldeb Rhiant ac Absenoldeb Arbennig.
Profion llygaid am ddim
Mae'r Brifysgol yn cyfrannu tuag at gost profion llygaid i weithwyr sy'n defnyddio sgriniau, neu offer tebyg, yn rhan hanfodol o'u gwaith arferol a hynny am ran sylweddol o'u horiau gwaith arferol. Gellir hawlio hyd at £30.00 am brawf llygaid. Os dengys y prawf fod angen lensiau cywiro er mwyn gwneud gwaith â sgriniau ac offer tebyg, bydd y Brifysgol yn cyfrannu hyd at £75.00 ar ben cost y prawf tuag at gost y sbectol. Bydd angen i Optegydd cymwys lenwi un rhan benodol o’r ffurflen.
Dylid anfon Ffurflen Hawlio Costau Prawf Llygaid a Sbectol (gan gynnwys yr holl lofnodion a'r dyddiadau angenrheidiol), i'r adran Adnoddau Dynol, gyda'r derbynebion wedi'u clymu yn sownd wrthi.
Dysgu Cymraeg
Mae Dysgu Cymraeg yn darparu amrywiaeth o gyrsiau i staff sy’n awyddus i ddysgu a gwella eu Cymraeg, dosbarthiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb, a all arwain at gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol.
Mentora / Hyfforddiant
Fel cyflogwr mawr ac amrywiol gall y Brifysgol gynnig cyfleoedd rhagorol i gael cymorth trwy fentora a hyfforddiant. Trafodwch eich anghenion penodol â'ch Rheolwr Llinell neu’ch Pennaeth Adran, ac yna cysylltwch ag aelod o'r tîm Adnoddau Dynol i drafod y cyfleoedd sydd ar gael.
Y Ganolfan Chwaraeon
Mae’r Ganolfan Chwaraeon yn ymroddedig i ddarparu ystod eang o wasanaethau ac adnoddau i wella ffitrwydd a lles ei haelodau - gan gynnwys dosbarthiadau, pwll nofio, campfa a sawna Nordig.
Rhwydweithiau a Grwpiau Cymorth i Staff
Mae gan y Brifysgol amrywiaeth eang o grwpiau cymorth, rhwydweithiau a gweithgareddau sydd ar gael i'r holl staff.
Teithiau Cerdded Lles
Mae’r Teithiau cerdded amser cinio o amgylch y campws a’r coedwigoedd cyfagos – dan arweiniad y tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd – yn gyfle gwych i ddianc o’r ddesg, mwynhau byd natur, a sgwrsio ag eraill!
Cymorth a Gwasanaethau Allanol
Mynediad i Waith
Gall Mynediad i Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau eich helpu i gael neu aros mewn gwaith os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd corfforol neu feddyliol. Bydd y gefnogaeth a gewch yn dibynnu ar eich anghenion. Drwy Mynediad i Waith, fe allwch wneud cais am: grant i’ch helpu i dalu am gymorth ymarferol â’ch gwaith; cymorth i reoli eich iechyd meddwl yn y gwaith; neu arian i dalu am gymorth cyfathrebu mewn cyfweliadau swyddi.
Adferiad
Adferiad: Mae'r Noddfa, sydd wedi'i lleoli yn Aberystwyth, yn darparu cymorth y tu allan i oriau i bobl sy’n dioddef argyfwng iechyd meddwl. Ffôn: 01970 629897 Ebost: ceredigionsanctuary@adferiad.org
C.A.L.L - Llinell Gymorth Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru
CALL: Ffoniwch CALL, y Llinell Gymorth Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru, am gymorth emosiynol cyfrinachol a gwybodaeth am iechyd meddwl. Ar agor 24/7. Ffôn: 0800 132 737
MIND
Mae MIND yn darparu gwybodaeth (‘A to Z of mental health’), cefnogaeth a chyngor ar broblemau iechyd meddwl. Mae'n cynnig amrywiaeth o wasanaethau lleol, gan gynnwys gwasanaeth galw heibio, i bobl Ceredigion. MIND Aberystwyth - Ffôn: 01970 626225
GIG 111 Cymru
Ffoniwch 111 Opsiwn 2 – ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, gan gynnig gwasanaeth brysbennu a chefnogaeth neu gyfeirio pan fo angen. Mae’n llinell gymorth iechyd meddwl bwrpasol i Gymru; gall gynnig clust i wrando a chymorth emosiynol yn gwbl gyfrinachol, a’ch cynorthwyo i ddod o hyd i gefnogaeth a allai fod yn ddefnyddiol ac o fudd i chi. Ffoniwch: 111 opsiwn 2.
Papyrus
Papyrus: Mae Papyrus yn darparu cyngor cyfrinachol ar atal hunanladdiad 24/7. Neges destun: 88247. Ffôn: 0800 068 4141. E-bost: pat@papyrus-uk.org
Y Samariaid
Mae’r Samariaid yn darparu cymorth emosiynol i unrhyw un sydd mewn trallod emosiynol, yn ei chael hi'n anodd ymdopi, neu sydd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad. Ar agor 24/7/365. Ffôn: 116 123. E-bost: jo@samaritans.org
Shout
Shout: Defnyddiwch Shout, gwasanaeth negeseuon testun cyfrinachol 24/7 am ddim pan fyddwch chi'n ofidus. Anfonwch y gair ‘Shout’ drwy neges destun at 85258.
Mynediad i Waith
Gall Mynediad i Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau eich helpu i gael neu aros mewn gwaith os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd corfforol neu feddyliol. Bydd y gefnogaeth a gewch yn dibynnu ar eich anghenion. Drwy Mynediad i Waith, fe allwch wneud cais am: grant i’ch helpu i dalu am gymorth ymarferol â’ch gwaith; cymorth i rheoli eich iechyd meddwl yn y gwaith; neu arian i dalu am gymorth cyfathrebu mewn cyfweliadau swyddi.
Deaf Plus
Mae Deaf Plus yn cynnig ystod eang o wasanaethau i'n cleientiaid i ddatblygu eu potensial ac i hyrwyddo annibyniaeth a lles.
Mencap
Mencap yw prif lais anableddau dysgu.
Gofalu
Gofalwyr Cymru (Carers UK) yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth arbenigol i ofalwyr di-dâl. Ffoniwch 02920811370 neu ebostiwch info@carerswales.org
Gallai asesiad o anghenion gofalwr fod yn gam cyntaf tuag at gael cymorth hanfodol. Dyma'ch cyfle i drafod y cymorth sydd ei angen arnoch fel gofalwr. Dysgwch sut y gallai wneud bywyd yn haws i chi a'r person rydych chi’n gofalu amdano.
Mae Llinell Gymorth Dementia yn cefnogi pobl y mae dementia yn effeithio arnynt. Llun-Gwener 9yb i 9yh, Sadwrn/Sul 9yb i 5yp, gwyliau banc 9yb i 5yp (ac eithrio 25 Rhagfyr). Ffoniwch 0800 888 6678.
Family Lives (Parentline yn flaenorol) - yn cynnig cefnogaeth emosiynol, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar unrhyw agwedd ar rianta a bywyd teuluol. Os ydych am sgwrs, rydyn ni yma i wrando - Llun - Gwener 9yb tan 9yh. Dydd Sadwrn/Sul - 10yb i 3yp. 0800 800 2222.
Mae Parentline Plus yn cynnig cymorth gwrando, cefnogol ac anfeirniadol i deuluoedd.
Gofal Plant
Mae yna nifer o feithrinfeydd yn Aberystwyth yn ogystal â gwarchodwyr plant cofrestredig. I ddarganfod mwy, gweler Cyngor Sir Ceredigion - Gofal Plant yng Ngheredigion.
Cymorth i ieuenctid
Mae Childline ar ddiwedd y ffôn, Unrhyw Amser, Cyngor a gwybodaeth cyfrinachol i unrhyw un o dan 19 oed. 0800 1111.
Mae gan Meic wybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc (25 oed ac iau) yng Nghymru. 8am- hanner nos: Gyrra WhatsApp 6 neu ffônio i 08088023456
Alcoholigion Anhysbys
Ewch i Alcoholigion Anhysbys am gymorth ac adnoddau ynghylch alcoholiaeth. Llinell Ffôn am ddim: 0800 9177 650. E-bost: help@alcoholics-anonymous.org.uk
Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed (GCAD):
GCAD - 0330 363 9997 - confidential@d-das.co.uk. Mae GCAD yn bwynt cyswllt ar gyfer defnyddwyr cyffuriau ac alcohol, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol.
Dan 24/7
Dan 24/7 - 0808 808 2234 - Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol - dwyieithog a rhad ac am ddim. Mae galwadau a wneir i rifau ffôn 0800 neu 0808 am ddim ar gyfer yr holl linellau tir a ffonau symudol yn y DU. NI FYDD rhif ffôn Dan 24/7 yn ymddangos ar fil wedi eitemeiddio eich cartref.
Trans Aid Cymru
Mae Trans Aid Cymru yn helpu pobl Trawsrywiol, Anneuaidd a Rhyngrywiol trwy gydgymorth. Mae'r prosiect yn cael ei redeg gan bobl Trawsrywiol, Anneuaidd a Rhyngrywiol ar gyfer pobl Trawsrywiol, Anneuaidd a Rhyngrywiol, sy'n golygu ei fod yn gynhwysol ac yn deall anghenion y gymuned.
E-bost hello@transaid.cymru
Umbrella Cymru
Mae Umbrella Cymru yn wasanaeth cymorth arbenigol yn seiliedig ar rywedd ac amrywiaeth rhywiol sy’n cynnig cymorth i bobl o bob oed ledled Cymru. Mae cefnogaeth ar gael i bobl LHDTC+ a'u teuluoedd. Ebost: info@umbrellacymru.co.uk | Ffôn: 03003023670 | Neges destun: 07520645700
Mermaids
Mae Mermaids yn cefnogi plant a phobl ifanc traws, anneuaidd a rhywedd-amrywiol, yn ogystal â'u teuluoedd. Siaradwch ag aelod o dîm Mermaids 0808 801 0400 (Llun – Gwener; 1pm – 8.30pm). Gwe-sgwrs. tecstiwch MERMAIDS i 85258
Bwlio
Mae Bullying UK yn cynnig cyngor a chefnogaeth ar gyfer pob math o fwlio.
Aflonyddu Rhywiol, Ymosodiad Rhywiol a Chamdriniaeth.
Mae Rape Crisis yn llinell gymorth sy’n cynnig cefnogaeth emosiynol, gwybodaeth a chyfeirio naill ai dros y ffôn neu drwy sgwrsio ar-lein. Ffôn: 0808 500 2222.
Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn yn rhoi cymorth a chyngor am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, mae hefyd yn cynnig cymorth i ddynion a phlant. Ffôn: 0808 80 10 800.
Troseddu
Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn cynnig cefnogaeth a gwybodaeth gyfrinachol i bobl yr effeithiwyd arnynt gan drosedd. Ffôn: 0808 168 9111.
Headway
Headway - cymdeithas anafiadau i'r ymennydd, yw'r elusen ledled y DU sy'n gweithio i wella bywydau ar ôl anaf i'r ymennydd trwy ddarparu gwasanaethau cymorth a gwybodaeth hanfodol. Cymorth cyfrinachol am ddim 0808 800 2244 helpline@headway.co.uk
Cangen Headway ar gyfer Ceredigion, yn Aberystwyth, mae ganddynt wasanaeth galw heibio a gwybodaeth, a grŵp defnyddwyr gwasanaeth sy'n cyfarfod yn ystafell Gymunedol Tesco.
Help for Heroes
Mae Help for Heroes yn rhwydwaith o weithwyr proffesiynol a phartneriaid sydd nid yn unig yn helpu aelodau sy'n gwasanaethu o'r Lluoedd Arfog, ond hefyd cyn-filwyr a'u teuluoedd. Cyflawnir hyn trwy adferiad ac adsefydliad corfforol ac emosiynol. Mae'r elusen hefyd yn nodi cyfleoedd gyrfa newydd ac yn cynnig cymorth ariannol a lles. Ffoniwch 01443 808910
Neu’r rhif cenedlaethol 0300 303 9888, Wales.supporthub@helpforheroes.org.uk
Grŵp Cyn-filwyr Aberystwyth / Change Step Veterans
Cyn-Filwyr Aberystwyth / Change Step Veterans Mae'r grŵp bellach yn cwrdd yn ystafell Gymunedol Tesco, Aberystwyth rhwng 5-7yh bob nos Fercher. Grŵp cymdeithasol i Gyn-filwyr yn unig sy'n cynnig gweithgareddau cymdeithasol. Ffoniwch 0300 7772259
Gwasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru
Mae GIG Cymru i gyn-filwyr yn wasanaeth arbenigol, sy’n blaenoriaethu unigolion sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, ar unrhyw adeg yn eu bywydau ac sy'n profi anawsterau iechyd meddwl sy'n gysylltiedig yn benodol â'u gwasanaeth milwrol. Mae hyn hefyd yn cynnwys personél y llynges fasnachol sy'n ymwneud â gweithrediadau milwrol. Ffoniwch 01570 422577