Offer Sgrin Arddangos (DSE) a Materion Rhan Uchaf y Corff

Ystyrir Offer Sgrin Arddangos yn unrhyw ddyfais neu gyfarpar sydd â sgrin arddangos alffaniwmerig neu graffig. Mae hyn yn cynnwys sgriniau arddangos, gliniaduron, sgriniau cyffwrdd, a dyfeisiau eraill tebyg.

Risgiau

Gall gweithfannau neu gyfarpar cyfrifiadurol achosi poen i’r gwddf, ysgwyddau, cefn neu freichiau, yn ogystal â blinder a straen llygaid, ond gellir osgoi’r problemau hyn trwy ddilyn ymarfer effeithiol, trefnu eich gweithfannau yn gywir, a chymryd egwyliau os byddwch yn defnyddio’r offer am gyfnodau hir. Trwy gymryd rhai rhagofalon syml, gall gweithio gydag offer sgrin arddangos fod yn fwy cysurus a chynhyrchiol.

Hysbysiad Diogelu Data

Hysbysiad Diogelu Data Mae'r Tîm Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd yn ymroddedig i ddiogelu data personol trwy gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data ac arfer gorau. Am fanylion ynghylch sut yr ydym yn rheoli eich data personol, ewch i: https://www.aber.ac.uk/cy/hse/gwybodaeth-am-ddiogelu-data/

Dogfennau

Mae’r dogfennau canlynol yn ymwneud ag Offer Sgrin Arddangos i’w cael yn y Llyfrgell Dogfennau:

  • P012 Polisi Offer Sgrin Arddangos
  • F009 Rhestr Wirio Gweithfan VDU
  • F011 Ffurflen Hunanasesu Gweithfannau Offer Sgrin Arddangos

Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag unrhyw un o’r dogfennau hyn, cysylltwch â’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd ar hasstaff@aber.ac.uk neu ar estyniad 2073.

Hyfforddiant

Mae’r Cwrs Hyfforddi E-ddysgu ar Hanfodion Iechyd a Diogelwch yn cynnwys modiwl sy’n ymwneud â 'Gweithio’n Ddiogel gyda Chyfrifiaduron', sy’n cynnig arweiniad i ddefnyddwyr ar arferion da wrth drefnu eu gweithfannau eu hunain. Dylai pob aelod o staff gwblhau’r modiwl hwn i’w helpu i gwblhau eu hasesiad Offer Sgrin Arddangos.

Mae gwybodaeth bellach ynglŷn â’r modiwlau E-ddysgu ar Hanfodion Iechyd a Diogelwch, gan gynnwys manylion am sut i gofrestru, ar gael yma.

Asesiadau Offer Sgrin Arddangos

Dylai pawb sy’n defnyddio offer sgrin arddangos yn rheolaidd gwblhau Asesiad Offer Sgrin Arddangos personol a’i adolygu’n rheolaidd. Dylid cynnal Asesiadau Offer Sgrin Arddangos drwy gwblhau Rhestr Wirio Gweithfan VDU F009, a dylid eu hadolygu o leiaf bob blwyddyn neu mewn sefyllfaoedd pan fo:

  • Newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud i offer, dodrefn, amgylchedd gwaith neu feddalwedd;
  • Defnyddwyr yn newid gweithfannau;
  • Natur tasgau’r gwaith yn newid yn sylweddol;
  • Credir y gallai’r mesurau rheoli sydd ar waith fod yn achosi problemau eraill.

Os bydd yr Asesiad Offer Sgrin Arddangos yn amlygu unrhyw faterion neu bryderon yn ymwneud â’ch gweithfan, dylech gysylltu â’r Tîm Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd ar hasstaff@aber.ac.uk neu estyniad 2073 i gael cyngor pellach. 

Ystyriaethau Pwysig

Ystyriaethau pwysig wrth ddefnyddio offer sgrin arddangos:

  • Addaswch eich cadair a’ch monitor fel eu bod mewn safle cysurus ar gyfer eich gwaith
  • Sicrhewch bod gennych ddigon o le ar gyfer eich dogfennau a’ch offer gwaith
  • Addaswch ogwydd eich monitor i osgoi disgleirdeb ac adlewyrchiadau – neu addaswch y llenni
  • Sicrhewch bod y gofod o dan eich desg yn glir – fel bod modd i chi symud eich coesau yn esmwyth
  • Os ydych yn fyr, defnyddiwch droedle – i wneud yn siŵr nad yw ymyl eich cadair yn pwyso’n ormodol ar gefn eich coesau a’ch pengliniau
  • Ceisiwch gadw eich arddyrnau’n syth wrth ddefnyddio’r bysellfwrdd
  • Cadwch y llygoden yn ddigon agos i chi beidio â gorfod ymestyn i’w defnyddio
  • Peidiwch â gafael yn rhy dynn yn y llygoden
  • Addaswch y disgleirdeb a’r cyferbyniad ar y sgrin fel bod modd i chi ddarllen y sgrin yn glir
  • Cymerwch egwyliau rheolaidd – mae egwyl fer i ffwrdd o’r sgrin (5 munud bob awr) yn fwy buddiol nag egwyliau hirach ond llai rheolaidd.