Hwb i brotein amgen yn Ewrop gyda phartneriaeth codlysiau newydd

Rhai aelodau o’r consortiwm newydd Cynhyrchu Codlysiau

Rhai aelodau o’r consortiwm newydd Cynhyrchu Codlysiau

14 Rhagfyr 2023

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ymuno gyda’r bridwyr planhigion gorau ar draws Ewrop i hybu cnydau a all leihau mewnforion protein.

Mae ffermio da byw yn yr UE a’r DU yn defnyddio tua 10 miliwn tunnell o wrtaith nitrogen o nwy naturiol a’r hyn sy’n cyfateb i tua 35 miliwn tunnell o soia, wedi’i fewnforio’n bennaf.

Fel rhan o’r consortiwm newydd Cynhyrchu Codlysiau, bydd academyddion o orllewin Cymru yn ymuno â sefydliadau ymchwil blaenllaw eraill o bob rhan o Ewrop i hybu bridio ffa soia, bysedd y blaidd, pys, ffacbys, ffa a meillion.

Nid yw’r cnydau codlysiau hyn, sy'n gallu disodli gwrtaith a soia wedi'i fewnforio, yn cael eu tyfu’n aml gan ffermwyr Ewropeaidd, gan gynrychioli 2-3% o'r arwynebedd cnydio yn unig.

Mae'r bartneriaeth newydd – sy’n cynnwys 32 partner o 16 o wledydd, gan gynnwys Seland Newydd ac UDA - wedi derbyn €7 miliwn yn ddiweddar gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol.

Yn weithredol tan fis Chwefror 2028,  nod y gwaith yw lleihau'r bwlch protein Ewropeaidd trwy hybu bridio planhigion i wneud codlysiau yn fwy cynhyrchiol a phroffidiol i ffermwyr Ewropeaidd.

Dywedodd Dr Catherine Howarth o Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“O ystyried yr argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth, a manteision bwydydd sy’n seiliedig ar blanhigion, mae  teulu’r codlysiau yn dda i’n hiechyd ac i’r blaned. Mae ffacbys, ffa soia, bysedd y blaidd, pys, a ffa a'r planhigion sy’n perthyn iddyn nhw yn casglu eu nitrogen eu hunain o'r aer a’u storio ac yn rhoi hadau llawn protein i ni sy'n allweddol i ddiet iach a chynaliadwy. Bydd cynyddu eu cynhyrchiant yn Ewrop yn gwneud systemau ffermio yn fwy amrywiol, gwydn a chynaliadwy.”

Ychwanegodd Dr Lars-Gernot Otto o Sefydliad Ymchwil Genetig Planhigion a Phlanhigion Cnydau Leibniz:

“Bydd y prosiect yn cyfrannu at ein cenhadaeth i gefnogi bridio planhigion gyda’n cronfa hadau ac i fanteisio ar eneteg er mwyn datblygiad cynaliadwy ffermio. Mae'r codlysiau yn rhan hanfodol o systemau amaethyddol cynaliadwy ac mae'r prosiect hwn yn ein galluogi i gyfrannu at ddatblygu'r mathau gwell sydd eu hangen arnom.

“Mae angen i ni ffurfio partneriaethau newydd rhwng sefydliadau ymchwil planhigion Ewropeaidd blaenllaw a’r bridwyr planhigion y mae gwella cnydau fferm yn dibynnu arnyn nhw. Byddwn ni’n newid y ffordd y mae bridwyr planhigion codlysiau yn cael eu cefnogi gan ymchwil er budd ffermwyr Ewropeaidd, yr amgylchedd, a’n hiechyd.”