Dr Elin Royles

BSc Prifysgol Cymru Aberystwyth MSc (Econ) Prifysgol Cymru Aberystwyth, PhD Prifysgol Cymru Aberystwyth

Dr Elin Royles

Darllenydd

Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Manylion Cyswllt

Proffil

Ymunodd Elin â'r Adran fel aelod o staff yn 2003 ac mae'n Ddarllenydd. Mae ei diddordebau ymchwil ac addysgu yn ymwneud gyda'r meysydd canlynol:

Gwleidyddiaeth diriogaethol a gwleidyddiaeth wedi datganoli yn y DU;

Diplomyddiaeth is-wladwriaethol a Chodi Cenedl;

Cymdeithas sifil;

Polisi a Chynllunio Iaith.

Mae'n arwain tîm Recriwtio, Mynediad a Marchnata'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac yn Aelod o Bwyllgor Gweithredol ac arweinydd thema 'Iaith, Diwylliant a Hunaniaethau' Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru'r Brifysgol. 

Ymchwil

Prif feysydd ymchwil: Gwleidyddiaeth diriogaethol a gwleidyddiaeth wedi datganoli yn y DU; Diplomyddiaeth is-wladwriaethol a Chodi Cenedl; Polisiau newid hinsawdd a datblygu cynaliadwy is-wladwriaethau; Cymdeithas sifil; Polisi a Chynllunio Iaith.

Mae’n rhan o’r canlynol:

Grantiau ymchwil:

WP C3.1 - Shifting forms of governance and the grassroots politics of separatism, rhan o thema 3 Contentious Politics and Civic Gain y prosiect WISERD Civil Society - Civic Satisfaction and Civil Repair a ariennir gan yr ESRC (gyda Dr Anwen Elias, Yr Athro Rhys Jones a Dr Nuria Franco-Guillen)

Prosiect Ymddiriedolaeth James Madison, 'Assessing the UK’s new intergovernmental relations architecture post-Brexit'

Gwerthusiadau:

Gwerthusiad o raglen ARFOR 2 wedi ei arwain gan Wavehill fel y prif gontractwr

Enillodd ei thraethawd doethurol wobr Walter Bagehot y Political Studies Association am y traethawd gorau ym maes llywodraeth a gweinyddiaeth gyhoeddus yn 2004-05 a rhwng 2005 a 2014 bu’n gyd-olygydd y cyfnodolyn Contemporary Wales.

Oriau Swydda (Amseroedd Cyswllt Myfyrwyr)

  • Dydd Llun 13.00-14.00
  • Dydd Mawrth 11.00-12.00