Dr Gareth Norris

BSc (Anrhydedd) Seicoleg a Throseddeg, MSc Se

Dr Gareth Norris

Senior Lecturer in Psychology

Adran Seicoleg

Manylion Cyswllt

Noder: Mae gwybodaeth ychwanegol neu manylach ar y fersiwn Saesneg o'r proffil hwn.

Dysgu

Module Coordinator
Coordinator

Mae fy mhrif ddiddordebau dysgu ym meysydd seicoleg fforensig/gyfreithiol a dulliau ymchwil meintiol.

Ymchwil

Mae gen i ddau brif faes ymchwil:
• Y defnydd o dechnoleg amlgyfrwng mewn gwaith fforensig ac yn arbennig y defnydd o animeiddiadau yn yr ystafell lys;
• Y bersonoliaeth awdurdodaidd a'r ofn o drosedd - prosiect a gwblhawyd yn ddiweddar, dan nawdd yr Academi Brydeinig, yn edrych ar effaith newidynnau cymdeithasol-seicolegol (awdurdodyddiaeth) a chanfyddiadau o droseddu.

Rwyf hefyd wedi gweithio ar brosiect ar y cyd ag IMPACT a'r Gwasanaeth Carchardai, yn ymchwilio i faterion yn ymwneud â chyflogi ac addysgu troseddwyr ar ôl eu rhyddhau o'r carchar. Mae'r meysydd ymchwil eraill yn cynnwys proffilio troseddwyr ac esboniadau seicolegol am ymddygiad troseddol, gan gynnwys mympwyedd/ Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd. Rwyf ar hyn o bryd yn gweithio gyda Gwasanaeth Cyfiawnder a Throseddau Ieuenctid Ceredigion i ddatblygu offeryn sgrinio asesu risg.

Grantiau Ymchwil:

Bwrdd Cyfiawnder Iechyd (YJB). Datblygu Offeryn Asesu Risg. (?9,600: Mai 2014-Mawrth 2015).

Lleoliad Mewnwelediad Strategol (SIP). Technoleg a Throseddu - Heddlu Dyfed-Powys. (?2250: Mai-Awst, 2014).

Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol: Gyl Wyddoniaeth (?500: Gorffennaf 2013).

Lleoliad Mewnwelediad Strategol (SIP). Deunydd dysgu amlgyfrwng rhyngweithiol - 360Fusion. (?2250: Mai-Gorffennaf 2012)

Yr Academi Brydeinig: Fear of Crime as a Moderator of Authoritarian Attitudes. (?2000: Ionawr 2008)

Arolygu

Rwyf ar hyn o bryd yn arolygu / cyd-arolygu nifer o ymgeiswyr Uwchraddedig, gan gynnwys:

• Astudiaeth ar ailsefydlu yn sustem carchardai Mecsico
• Y defnydd o Ddulliau Adferol mewn ysgolion
• Penderfyniadau'r heddlu ar safleoedd damweiniau ffordd

Byddwn yn hapus i arolygu mewn ystod o feysydd yn ymwneud â throseddeg, seicoleg a'r gyfraith. Mae gen i gefndir cryf mewn dulliau ymchwil meintiol a dadansoddi data.