Mr Simon Marshall BA Hons (Cymru), PGCE (Oxon), AgilePM a PRINCE2 Ardystiedig Ymarferydd

Dylunydd Amlgyfrwng
Veterans Legal Link Project Web Manager
Manylion Cyswllt
- Ebost: som@aber.ac.uk
- Swyddfa: B43, Adeilad Hugh Owen
- Ffôn: +44 (0) 1970 622732
- Proffil Porth Ymchwil
- Rhagenwau personol: Fe / Fo
Proffil
Mae Simon yn gweithio fel y Rheolwr Prosiect Gwe ar gyfer Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr, gan gynllunio a chydlynu’r gwaith o ddatblygu meddalwedd a phrosesau newydd ar gyfer y prosiect. Mae Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth, gan ddod â chyfreithwyr a myfyrwyr y gyfraith i gysylltiad â chyn-filwyr a’u teuluoedd er mwyn darparu cyngor cyfreithiol a gwasanaethau cyfeirio am ddim (am ragor o fanylion ewch i’r wefan). Fel Rheolwr Prosiect y We i Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr, mae Simon yn gweithio yn Ystafell B43, Adeilad Hugh Owen ar Gampws Penglais (ffôn 01970 62 2732).
Mae Simon hefyd yn aelod o dîm BioArloesedd Cymru ac mae’n creu cynnwys amlgyfrwng ar gyfer y prosiect, at ddibenion addysg a hyrwyddo. Mae BioArloesedd Cymru yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Abertawe, a’r nod yw darparu rhaglen astudio uwchraddedig o bell i bobl sy’n gweithio yn y diwydiannau bwyd a biotechnoleg (am ragor o wybodaeth ewch i’r wefan). Dylunydd Amlgyfrwng i Bioarloesedd Cymru Wales, mae Simon yn gweithio yn Ystafell 2.12, Adeilad Stapleton ar Gampws Gogerddan (ffôn 01970 62 2282).
Mae gan Simon gefndir ym maes addysg, a dros 20 mlynedd o brofiad o reoli gwefannau. Y mae’n rheolwr prosiectau profiadol, ac arferai arbenigo ym maes cydymffurfiaeth gwefannau.