Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth
Grŵp o fewn y Brifysgol yw’r Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth sy'n ymroi i ledaenu'r wybodaeth ddiweddaraf o gyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid ac i wneud rhagor o ddadansoddi a llunio adroddiadau yn seiliedig ar ddata academaidd. Ymchwilwyr doethurol yw’r staff sy'n ymwneud â lledaenu data a dadansoddi data ar gyfer datblygu prosiectau ac mae ganddynt brofiad o gyflawni ymchwil academaidd i safon uchel. Cefnogir y tîm academaidd craidd hwn gan arbenigwyr yn y cyfryngau i gynhyrchu deunyddiau ar gyfer e-ddysgu, gwefannau, cyfryngau cymdeithasol a deunydd amlgyfrwng arall.
Sut gall y Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth fod o fudd i'ch busnes?
Sut mae Cyfnewid Gwybodaeth sy’n seiliedig ar wyddoniaeth yn gweithio?
Prosiectau Presennol
Cyswllt Ffermio - Gyrru arloesedd drwy gysylltu ymchwil ag ymarfer
Mae gan y Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth gysylltiad hirsefydlog â chynllun Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, Cyswllt Ffermio, sy'n cefnogi sector diwydiannau’r tir i’w ddatblygu’n fwy proffesiynol, proffidiol a gwydn. Mae'n cynnwys rhaglen integredig o drosglwyddo gwybodaeth, arloesi a gwasanaethau cynghori sydd wedi'i gynllunio i gynnig mwy o gynaliadwyedd, i wella’r gallu i gystadlu, a gwella'r perfformiad amgylcheddol yng Nghymru. Mae’r prosiect yn blaenoriaethu’r meysydd canlynol: Newid yn yr Hinsawdd, Bioamrywiaeth, Coedwigaeth, Cig Coch, Llaeth, Glaswelltir, Tir Âr, Garddwriaeth, Cynhyrchu Organig, Moch a Dofednod. Mae’n cynnwys themâu polisi trawsbynciol sef: Mynd i'r Afael â Thlodi, Cenedlaethau'r Dyfodol, Yr Amgylchedd Naturiol, Iechyd a Lles Anifeiliaid, Iechyd Planhigion, Newydd-ddyfodiaid a Menywod ac Iechyd a Diogelwch.
Biomass Connect - Rhan o'r Rhaglen Arloesi Porthiant Biomas
Mae Biomas Connect yn rhan o raglen gwerth £36 miliwn sy'n cael ei hariannu drwy bortffolio arloesi sero net yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Nod y prosiect yw ymchwilio i'r potensial o gynhyrchu mwy o fiomas cynaliadwy yn y DU ar gyfer ynni glân. Mae'r prosiect yn ceisio cyflwyno tystiolaeth a gwybodaeth annibynnol, effeithiol a chadarn am ddefnyddio porthiant biomas yn y DU trwy ddadansoddi cyfres o leiniau prawf ar safleoedd canolog ledled y wlad.
Rhaglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig
Mae'r Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth yn rhan o'r tîm sy'n ymwneud â’r Rhaglen Monitro a Modelu’r Amgylchedd a Materion Gwledig sy'n ceisio cefnogi'r gwaith o ddatblygu polisi yng Nghymru ynghylch gwydnwch cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol o fewn sectorau fel amaethyddiaeth, pysgodfeydd, twristiaeth a choedwigaeth. Mae'r grŵp hwn yn defnyddio detholiad o arbenigwyr ar draws amrywiol feysydd er mwyn cael gwell dealltwriaeth o Reoli Tir Cynaliadwy ar dirweddau Cymru drwy weithgareddau, monitro a modelu.
Proffiliau Staff
Gellir dod o hyd i’r staff sy'n gweithio ar draws tîm y Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth isod - Cliciwch ar y delweddau am ragor o wybodaeth a manylion cyswllt.
Tîm Cyswllt Ffermio
Tîm Biomass Connect
Mr Mark Needham (KE Fellow)