Beatrice Fihn: International Politics is alive and well (despite reports to the contrary)

‘International Politics is alive and well (despite reports to the contrary)’ yw teitl Darlith Flynyddol Kenneth N Waltz eleni, ac fe'i cynhelir ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Iau, 31 Hydref am 6yh.

Mae’r achlysur yn rhan o Gyfres yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Siaradwyr y Canmlwyddiant, a Beatrice Fihn, Cyfarwyddwr Gweithredol yr Ymgyrch Ryngwladol i Ddileu Arfau Niwclear (ICAN) fydd yn traddodi.

Trwy ei gwaith gyda'r Ymgyrch, gyda Chynghrair Iechyd a Rhyddid Rhyngwladol y Merched, a Chanolfan Genefa i Bolisi Diogelwch, mae gan Ms Fihn ddegawd a mwy o brofiad ym maes diplomyddiaeth diarfogi a symudiadau cymdeithas sifil. Mae hi wedi ysgrifennu'n helaeth ynglŷn â chyfraith arfau, ymwneud cymdeithas sifil mewn diplomyddiaeth a sefydliadau amlochrog, ac agweddau'r rhywiau ynghylch gwaith diarfogi.

Cynhelir darlith Beatrice Fihn, ‘International Politics is alive and well (despite reports to the contrary)’ ym Mhrif Neuadd Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Hanes a Hanes Cymru am 6pm, nos Iau 31 Hydref 2019.

Mynediad AM DDIM ac mae croeso i bawb.